Diogelu Oedolion

Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.

Mae gan bawb ddyletswydd i fod yn effro i bryderon ynghylch cam-drin ac esgeulustod oedolion a gwybod i bwy y dylent adrodd eu pryderon.

"Oedolyn mewn perygl" yw oedolyn sydd:

(a) yn profi neu mewn perygl o brofi cam-drin neu esgeulustod,

(b) ag anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r cyngor yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio), ac

(c) o ganlyniad i'r anghenion hynny yn methu ag amddiffyn ei hun rhag y cam-drin neu'r esgeulustod neu'r risg ohono.

Os ydych chi'n poeni bod oedolyn agored i niwed yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, rhaid i chi roi gwybod am eich pryderon i'ch Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) lleol isod:

Ffôn: 01495 315700

E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk

Ffacs: 01495 353350

Am ymholiadau gwybodaeth gyffredinol:

E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Ffôn: 01495 354680

Ffacs: 01495 355285