Diogelu mewn Addysg

Diogelu mewn Addysg:

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel: Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchenogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002 Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (llyw.cymru)

Mae'r canllawiau cenedlaethol hyn wedi'u bwriadu ar gyfer pawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad addysg neu asiantaeth gysylltiedig a fyddai'n elwa o ddeall y broses a'r disgwyliadau ar gyfer diogelu mewn ysgolion, a'r system ehangach.

Mae'r ddogfen yn cynnwys canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant o dan Ddeddf Addysg 2002. Mae'r canllawiau'n ymwneud yn uniongyrchol â'r gweithdrefnau a'r dyletswyddau diogelu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014