Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi:
Cam-drin yw pan fydd rhywun yn achosi niwed neu drallod i berson arall. Gall fod yn gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol, a gall ddigwydd yn unrhyw le, gan gynnwys gartref, mewn gofal, yn y gwaith neu yn y gymuned.
Esgeulustod yw methiant i ddiwallu anghenion rhywun fel bwyd, gofal, cymorth, cymorth meddygol neu le diogel i fyw, ac mae hyn yn effeithio ar ei lesiant.
Gall cam-drin neu esgeulustod ddigwydd unwaith neu fwy nag unwaith. Gall fod yn fwriadol, neu gall ddigwydd oherwydd nad yw rhywun yn deall anghenion person neu’n methu â darparu’r gofal a’r cymorth cywir.
Mae mathau o gam-drin yn cynnwys:
Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, gwthio, ysgwyd, rhoi gormod o feddyginiaeth, neu atal rhywun rhag cymryd y feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt.
Gall cam-drin rhywiol gynnwys cyswllt rhywiol digroeso, cael eich rhoi dan bwysau neu eich gorfodi i wneud gweithgaredd rhywiol, treisio neu ymosodiad rhywiol.
Gall cam-drin seicolegol neu emosiynol gynnwys bygythiadau, bygylu, cam-drin geiriol, gwarth, ymddygiad rheolaethol, aflonyddu, neu ynysu rhywun oddi wrth deulu, ffrindiau neu gymorth.
Gall cam-drin ariannol gynnwys dwyn arian neu eiddo, twyll, camddefnyddio budd-daliadau neu eiddo rhywun, neu roi pwysau arnynt ynglŷn ag arian, eiddo neu eu hewyllys.
Gall esgeulustod gynnwys peidio â darparu gofal, bwyd, cymorth meddygol, cymorth neu fynediad priodol at wasanaethau, neu adael rhywun mewn perygl o niwed.
Gall cam-drin ddigwydd unwaith neu fwy nag unwaith, a gall person brofi mwy nag un math o gam-drin.
Pwy allai achosi cam-drin?
Gall y person sy'n achosi'r cam-drin fod yn rhywun rydych chi'n ei adnabod, fel:
- gofalwr neu wirfoddolwr sy’n cael ei dalu
- gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol
- ffrind, cymydog neu berthynas
- partner
- preswylydd arall neu berson sy'n defnyddio'r un gwasanaeth
- rhywun sy'n targedu neu'n camfanteisio ar bobl agored i niwed
- unrhyw un arall
Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi'n cael eich cam-drin, neu'n meddwl bod rhywun arall yn cael ei gam-drin, dywedwch wrth rywun. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, mae'n bwysig bod pobl sy'n gallu helpu yn edrych ar eich pryder. Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i ymateb i bryderon diogelu.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 ar unwaith ac esboniwch beth sy'n digwydd.
Os credwch y gallai trosedd fod wedi digwydd, megis ymosodiad, lladrad neu gam-drin rhywiol, cysylltwch â'r heddlu. Ceisiwch beidio â symud neu ddileu unrhyw beth a allai fod yn dystiolaeth.
Os ydych yn ansicr ynghylch cysylltu â'r heddlu, gallwch siarad â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyntaf. Gallwch hefyd ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo, fel nyrs, gofalwr, eiriolwr, ffrind neu berthynas, i gysylltu â ni ar eich rhan.
Os ydych chi wedi profi neu wedi gweld cam-drin, lle bynnag y digwyddodd, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Rhaid i staff sy'n gweithio gydag oedolion sydd mewn perygl roi gwybod am bryderon diogelu. Gall rhoi eich enw ein helpu i ymchwilio i'r pryder ac amddiffyn y person sydd mewn perygl.
Mae gan staff yr Awdurdod Lleol, yr Heddlu, Iechyd a'r Gwasanaeth Prawf ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod am bryderon diogelu i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi gwybod am y cam-drin?
Pan roddir gwybod am gam-drin, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymchwilio i'r pryder yn unol â gweithdrefnau diogelu cenedlaethol. Gall hyn gynnwys sefydliadau eraill, fel y gwasanaethau iechyd neu'r heddlu, a gall arwain at ymchwiliad ffurfiol.
Cymerir camau gweithredu i'ch helpu chi, neu'r person sydd mewn perygl, i gadw'n ddiogel. Byddwch hefyd yn cael cynnig cymorth a chyngor i'ch helpu i wneud penderfyniadau ynghylch beth sy'n digwydd nesaf.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei thrin yn sensitif. Efallai y bydd angen ei rhannu gyda'r bobl gywir fel y gellir ymchwilio i'r pryder a diogelu'r person.
Cyfrinachedd
Byddwn yn trin gwybodaeth am bryderon diogelu yn sensitif. Efallai y bydd angen i ni ei rhannu â sefydliadau eraill, fel yr heddlu neu'r rhai sy'n gwirio ansawdd gwasanaethau cofrestredig, ond dim ond gyda'r bobl sydd angen gwybod.