Unwaith y bydd cais cynllunio wedi’i gofrestru, bydd manylion y cais ar gael i chi eu gweld drwy e-bostio cynllunio@blaenau-gwent.gov.uk
Rhoddir cyhoeddusrwydd i geisiadau drwy un ai anfon llythyrau'n uniongyrchol at gymdogion sy'n byw agosaf at gyfeiriad y cais, drwy ddangos hysbysiad ar y safle neu'n agos ati, drwy roi hysbysiad yn y wasg neu drwy gyfuniad o'r tri. Gall unrhyw un sy'n dymuno rhoi sylwadau wneud hynny drwy:
Post, ysgrifennu at:
Rheoli Datblygu,Y Swyddfeydd Cyffredinol,Heol Gwaith Dur,Glyn Ebwy,GwentNP23 6DN
E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk
Mae'n rhaid cyflwyno'r holl sylwadau o fewn 21 diwrnod o'r hysbysiad. Dylid nodi y bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn agored i'r cyhoedd eu gweld. Dylech ysgrifennu cyfeirnod y cais cynllunio ar bob gohebiaeth.
Nid yw'n rhaid i chi fod wedi cael llythyr gennym i wneud sylwadau.
Ar gyfer ceisiadau na chafodd eu penderfynu dan bwerau dirprwyedig, bydd y Pwyllgor Cynllunio yn ystyried y ceisiadau. Gweler y canllawiau ar y protocol ar gyfer siarad yn y Pwyllgor Cynllunio.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau GwentY Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk