Gorfodi Cynllunio

Un o brif swyddogaethau'r system cynllunio yw rheoli datblygu a defnydd tir er mwyn diogelu'r amgylchedd.

Yn achlysurol mae datblygiad newydd yn digwydd neu gall defnydd tir neu adeiladau newid heb i ganiatâd cynllunio gael ei roi yn gyntaf.

Sut mae gwneud cwyn?

Os credwch fod rheolau cynllunio/ deddfwriaeth wedi eu torri, byddem yn ddiolchgar pe gallech gysylltu i ni i gael cyngor yn bersonol, dros y ffôn, e-bost neu mewn ysgrifen. Gofynnwn am gymaint o fanylion ag sydd modd am union natur eich pryder. Y manylion rydym eu hangen yw:

  • Union leoliad y safle
  • Natur eich pryder
  • Eich enw a'ch cyfeiriad cyswllt
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol/eraill â diddordeb

Pa gamau gaiff eu cymryd?

Gall nifer o bethau ddigwydd unwaith y cafodd cwyn ei hymchwilio:

  • Caiff y ffeil ei chau os canfyddir na fu toriad
  • Os canfyddir y bu toriad, byddwn yn ceisio negodi datrysiad boddhaol ac annog cyflwyno caniatâd cynllunio ôl-weithredol
  • Os na chyflwynir cais cynllunio, ac yn dibynnu pa mor ddifrifol yw'r toriad, bydd yr Awdurdod yn ystyried yn ofalus pa gamau pellach y bydd angen eu cymryd er enghraifft cyflwyno hysbysiad ffurfiol. Fodd bynnag os penderfynir na chymerir camau gweithredu ffurfiol, caiff y toriad ei gofnodi a'i ddatgelu ar chwiliad eiddo yn y dyfodol a all achosi oedi mewn gwerthiant yn y dyfodol.

Materion na ellir gael eu gorfodi

Rhoddir rhai enghreifftiau o faterion na fedrir eu gorfodi drwy ddeddfwriaeth cynllunio neu systemau eraill:

  • Materion yn ymwneud yn llwyr â gollwng sŵn, arogleuon, llwch a mathau eraill o lygredd amgylcheddol, os nad yw'n cynnwys torri amod.
  • Atal unrhyw ffordd neu hawl tramwy.
  • Problemau parcio ar y stryd.
  • Anghydfodau am y Ddeddf Waliau Cydrannol
  • Materion yn ymwneud ag anghydfod am hawliau tramwy preifat, cymdogion a ffiniau. Materion o gyfraith sifil yw'r rhain a dylid gofyn am gymorth cyfreithiwr.
  • Materion yn ymwneud â'r cyfyngiadau a osodwyd ar eiddo gan gyfamod. Fel yr uchod, mater o gyfraith sifil yw hyn a dylid gofyn am gymorth cyfreithiwr.

Mae gwybodaeth bellach yn y Polisi Gorfodaeth.

Dogfennau Cysylltiedig

Polisi Gorfodaeth

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk