Arfarniad Cynaliadwyedd

Arfarniad Cynaliadwyedd

Mae dyletswydd stadudol ar Gynlluniau Datblygu Lleol arfaethedig i fod yn wrthrych Arfarniad Cynaliadwyedd. Rôl yr Arfarniad Cynaliadwyedd yw asesu i ba raddau y bydd y polisïau arfaethedig yn helpu i gwrdd ag amcanion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ehangach y CDLl.

Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS)

Mae hefyd ddyletswydd i asesu effeithiau amgylcheddol tebygol yn sgil gweithredu cynlluniau a rhaglenni perthnasol ac i archwilio calyniadau tebygol dewisiadau amgen na rhai’r cynllun.

Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad Cynaliadwyedd

Mae Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad Cynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Blaenau Gwent yn amlinellu’r weithdrefn arfaethedig ar gyfer Arfarniad Cynaliadwedd y CDLl (AC) gan ymgorffori’r Asesiad Amgylcheddol Strategol.

Yr adroddiad yw cam cyntaf y broses AC ac mae’n amlinellu’r amcanion/criteria yr asesir y CDLl Diwygiedig yn eu herbyn. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad o gynlluniau,rhaglenni, strategaethau a pholisïau perthnasol ynghyd ag adolygiad o sylfaen amglcheddol, cymdeithasol ac economaidd yr ardal.

Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad Cynaliadwyedd

Atodiad 1: Adolygiad o Gynlluniau, Polisïau, Rhaglenni a Strategaethau

Atodiad 2: Data Sylfaen ar gyfer Blaenau Gwent

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)

Mae gofyn gwneud Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i’r perwyl o asesu a fydd gan gynigion y Cynllun unrhyw effeithiau andwyol ar safleoedd dynodedig sy’n cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau), safleoedd RAMSAR ac ACAau arfaethedig (ACAAau).

Adroddiad Cwmpasu ARhC Cychwynnol

Mae’r adroddiad cwmpasu cychwynnol hwn yn gam cyntaf o ran gweithredu’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) ar gyfer CDLl Diwygiedig Blaenau Gwent.