Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad y Cyngor ar eich cais cynllunio efallai y gallwch apelio i Arolygiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru.
Pwy all apelio?
Yr unig berson a all gyflwyno apêl yw'r person a wnaeth y cais cynllunio.
Nid oes gan wrthwynebwyr cais cynllunio unrhyw hawl apelio, ac ni all rhywun sy'n cefnogi'r cais cynllunio a wrthodwyd gan yr Awdurdod Cynllunio wneud apêl.
Pryd y gallaf apelio?
Gallwch apelio yn yr amgylchiadau dilynol:
- Os gwrthodwyd y cais cynllunio
- Os nad yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gwneud penderfyniad o fewn yr amser a ganiateir ar gyfer y math o gais
- Os yr ystyrir wrth gymeradwyo'r cynllun fod yr amod(au) sy'n gysylltiedig â'r caniatâd cynllunio yn amhriodol.
Cyflwyno apêl cynllunio
Mae gwahanol derfynau amser i wneud apêl yn dibynnu ar y math o apêl a'r amgylchiadau.
Mae'n rhaid cyflwyno apêl gan ddeiliaid tai neu fasnachol bach i'r Gyfarwyddiaeth Cynllunio o fewn 12 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad penderfyniad.
Caniatâd hysbyseb: rhaid cyflwyno i'r Arolygiaeth Cynllunio o fewn 8 wythnos o ddyddiad derbyn yr hysbysiad penderfynu. Os yw'r apêl yn erbyn hysbysiad dod i ben, mae'n rhaid iddi gyrraedd yr Arolygiaeth cyn y dyddiad y daw'r hysbysiad i rym.
Mae'n rhaid cyflwyno mathau eraill o geisiadau cynllunio o fewn 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad penderfyniad, neu unrhyw bryd ar ôl i'r cyfnod statudol ddod i ben oedd gan yr awdurdod cynllunio ar gyfer penderfynu ar y cais.
Gallwch apelio am benderfyniad cynllunio drwy wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r wefan yn cynnwys popeth sydd angen i chi wybod am y broses apelio.
Mae'n ofynnol i chi anfon copi o'ch apêl yn cynnwys manylion yr apêl a dogfennau cefnogi atom yn planning@blaenau-gwent.gov.uk neu drwy'r post at:
Rheoli Datblygu,Y Swyddfeydd Cyffredinol,Heol Gwaith Dur,Glyn Ebwy,GwentNP23 6DN
Cost
Nid yw'n costio dim i apelio yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio.
Pa mor hir mae’n ei gymryd?
Fel arfer mae'n cymryd tua 15 i 30 wythnos i wneud penderfyniad. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y weithdrefn a ddefnyddir ar gyfer yr apêl er enghraifft sylwadau ysgrifenedig, ymchwiliad ac ati.
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk