Gwasanaeth Cymorth Dyled Cronfa Cymorth Cwsmeriaid Dŵr Cymru
Cynlluniwyd y cynllun Cymorth Dyled Cronfa Cymorth Cwsmeriaid i helpu’r rhai sydd mewn caledi ariannol difrifol i glirio ac ymdopi gyda’u taliadau.
Gallech fod yn gymwys os:
- yw eich cyfrif dŵr am eiddo domestig lle’r ydych yn byw ar hyn o bryd
- oes gennych ddyled o fwy na £150
I gael mwy o wybodaeth ewch i Cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Cynllun Cymorth Debyd Uniongyrchol Dŵr Cymru
Os ydych mewn caledi ariannol a bod gennych ddyled i Dŵr Cymru gallai’r cynllun hwn eich helpu drwy dalu eich costau dŵr a dyled drwy eich budd-dal.
Gallech fod yn gymwys os:
- yw eich cyfrif dŵr am eiddo domestig lle’r ydych yn byw ar hyn o bryd
- yw eich ôl-ddyledion yn fwy na £75
- ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau dilynol
- Credyd Pensiwn • Credyd Cynhwysol
- Cymhorthdal Incwm • Lwfans Ceisiwr Swydd Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth(Seiliedig ar Incwm)
I gael mwy o wybodaeth ewch i: Cynllun Cymorth Dyled Dŵr Uniongyrchol | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Tariff HelpU
Mae tariff HelpU yn helpu aelwydydd incwm isel drwy roi uchafswm ar y swm mae’n rhaid i chi dalu am ddŵr.
Gallech fod yn gymwys os:
- yw eich cyfrif dŵr am eiddo domestig lle’r ydych yn byw ar hyn o bryd
- yw cyfanswm incwm eich aelwyd ar neu dan y trothwy. (1 unigolyn - £10,700, 2 unigolyn - £16,000, 3+ unigolyn £17,700)
- yw rhywun yn yr aelwyd yn derbyn o leiaf un budd-dal y mae prawf budd arno:
- Credyd Pensiwn
- Budd-dal Tai
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant (heblaw am deuluoedd sy’n derbyn yr elfen teulu yn unig)
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm
- Lwfans Ceiswyr Swydd Seiliedig ar Incwm (JSA)
I gael mwy o wybodaeth ewch i Tariff HelpU | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
Terfyn Bil - WaterSure Cymru
Os oes gennych fesurydd yn barod, neu wedi gofyn am hyn, mae tariff Terfyn Bil – WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar y swm sy’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.
Mae’n rhaid i chi fod â mesurydd dŵr neu ddewis cael gosod mesurydd. Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal gymwys neu gredyd treth a naill ai:
- â 3 neu fwy o blant dan 19 oed yn byw yn eich cartref y gallwch hawlio budd-dal plant ar eu cyfer.
- ag aelod o’ch aelwyd gyda chyflwr meddygol sydd angen defnydd sylweddol o ddŵr ychwanegol.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)