Cefnogi pobl a chymorth cysylltiedig â thai

Grant Cymorth Tai

Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent ac yn 16 oed neu drosodd ac yn cael trafferthion i gadw eich cartref, mewn risg o golli eich swydd, angen symud neu angen help i drefnu eich arian – gallai’r Tim Cefnogi Pobl gynnig cymorth i chi. Nid oes cost am ein gwasanaeth.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i

www.blaenaugwenthomes.org.uk/content/HousingSupportandAdvice/HousingSupport neu gysylltu â’r Tîm Grant Cymorth Tai ar  01495 354681,354683 neu e-bost supporting.people@blaenau-gwent.gov.uk

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau neilltuol ac yn atebol i dalu’r dreth gyngor, gallech fod yn gymwys am Ostyngiad Treth Gyngor. Cliciwch yma i ganfod mwy Budd-daliadau Ar-lein | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Budd-dal Tai

Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu eich rhent os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau. Mae’r Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno yn lle budd-dal tai.

Dim ond yn yr achosion dilynol y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai:

  • Eich bod wedi cyrraedd oed Pensiwn Gwladol
  • Eich bod yn byw mewn tai â chymorth, tai gwarchod neu lety dros dro

Cliciwch yma i ganfod mwy:  Hawlio budd-dal tai | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Taliad Tai ar Ddisgresiwn

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu elfen tai Credyd Cynhwysol, ond yn ei chael yn anodd talu eich rhent, gallwch wneud cais am Daliad Tai yn  ôl Disgresiwn (DHP).

I ganfod mwy a gwirio os gallech fod yn gymwys am gymorth, ewch i Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Mwy o Gymorth a Chyngor

Hybiau Cymunedol Blaenau Gwent

Mae’r hybiau mewn lleoliad canolog mewn llyfrgelloedd canolog mewn llyfrgelloedd leol a gaiff eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac maent yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar ystod o wasanaethau Cyngor.

I gael dyddiadau ac amserau safleoedd ewch i www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/blaenau-gwent-community-hub

Cyngor ar Bopeth Citizens Advice Caerphilly Blaenau Gwent - Cyngor ar Bopeth Caerffili Blaenau Gwent (citizensadvicecbg.org.uk)

POBL www.poblgroup.co.uk/homes-and-communities/find-a-home

Platform https://platfform.org/

Shelter Cymru Shelter Cymru - Home is everything