Felly, beth yw Credyd Cynhwysol? Mae’n daliad misol sengl i helpu gyda’ch costau byw ac mae’n darparu cymorth os ydych yn gweithio ac ar incwm isel neu’n chwilio am waith.
Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol, gan gynnwys ar gyfer pwy mae a sut y gall eich helpu.
Efallai y bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn teimlo fel newid mawr ond peidiwch â phoeni, cewch fwy o wybodaeth ar y wefan hon i’ch helpu i reoli’ch symud.
Mae’r budd-daliadau a’r credydau treth canlynol yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol:
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
Cadwch lygad allan am lythyr yn y post gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a fydd yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol. Fe’i gelwir yn ‘Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol’ a bydd yn esbonio beth bydd angen i chi ei wneud a phryd. Gallwch ddarganfod pryd mae’n debygol y gofynnir i chi symud i Gredyd Cynhwysol.
Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr, mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r dyddiad y bydd angen i chi wneud cais gan na fyddwch yn cael eich symud yn awtomatig. Peidiwch â phoeni, bydd eich llythyr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn. Yn y cyfamser, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer symud i Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch faint rydych yn debygol o’i gael ar Gredyd Cynhwysol.
Bydd eich budd-daliadau presennol yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn cyflwyno eich cais am Gredyd Cynhwysol. Ni fyddwch yn gallu dychwelyd i’ch budd-dal presennol unwaith y byddwch wedi gwneud cais. Darganfyddwch am y cymorth a’r cyngor annibynnol sydd ar gael i chi.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Symud i Gredyd Cynhwysol (0800 169 0328)
Ffoniwch y rhif ffôn yn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo os oes gennych gwestiwn am wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os nad ydych yn gallu mynd ar-lein.
Am fwy o wybodaeth am drosglwyddo i Gredyd Cynhwysol a phwy i gysylltu â nhw, ewch i ucmove.campaign.gov.uk/cy/
Canolfannau Cymunedol
Bydd Canolfannau Cymunedol yn cynnig y canlynol:
- Cyngor ar sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol - arwyddion cywir i gwsmeriaid.
- Cyfeirio cwsmeriaid at sefydliadau trydydd parti a all ddarparu cymorth bwyd a tanwydd.
- Darparu cyngor cyllideb neu gyfeirio at sefydliad trydydd parti sy'n darparu'r gwasanaeth hwn hefyd.
- Rhoi tocynnau bwyd a tanwydd i gwsmeriaid mewn angen.
- Cysylltwch â'r Adran Treth y Cyngor a/neu Gymdeithasau Tai os yw cwsmeriaid yn cael trafferth i gyflawni eu taliadau.
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/
Gwybodaeth Gyswllt
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: Info@blaenau-gwent.gov.uk