Help gyda biliau ynni

£150 Gostyngiad Cartref Cynnes

Rydych yn gymwys os ydych yn derbyn elfen credyd Gwarant y Credyd Pensiwn neu’ch bod ar incwm isel ac yn ateb meini prawf eich cyflenwr ar gyfer y cynllun.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956 gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi.

Ni fydd angen i chi hawlio eto os ydych wedi cael taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen.

Taliad Tywydd Oer

Gallech gael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn budd-daliadau neilltuol neu gymorth ar gyfer llog morgais.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y taliadau hyn yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais, ond gall fod angen i chi  ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os oes gennych fabi neu fod plentyn dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi.

Nid yw’r taliadau hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Byddwch yn cael taliad os caiff y tymheredd cyfartalog yn eich ardal ei gofnodi fel, neu y rhagwelir y bydd yn, sero gradd Celsius neu is ar 7 diwrnod olynol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i  www.gov.uk/cold-weather-payment

Grant £200 i gyn Lowyr

Mae cyn lowyr yn gymwys am grant o £200 i helpu gyda’r cynnydd mewn costau ynni.

Daw’r grant drwy Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).

I ganfod mwy am y grant, cysylltwch â swyddfa CISWO Cymru drwy ffonio 01443 485233 neu anfon e-bost at wales@ciswo.org.uk

Cymorth Cyflenwyr Ynni

Efallai y gall cwsmeriaid sydd mewn dyled i’w cyflenwr ynni gael help i’w dalu. Fodd bynnag, mae llawer o’r cyflenwyr ynni angen i chi ofyn am gyngor i ddechrau gan elusen gydnabyddedig ar gyngor dyledion.

I gael cefnogaeth, cyngor neu help ychwanegol ewch i  Help i Aelwydydd – Cael cymorth costau byw gan y llywodraeth

Cronfa Cymorth ar Ddisgresiwn

Mae’r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn yn darparu 2 fath o grant nad oes angen i chi ei ad-dalu.

Taliad Cymorth Argyfwng (EAP)

Grant i helpu talu am gostau hanfodol tebyg i fwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio argyfwng os:

  • ydych yn profi caledi ariannol difrifol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Ni allwch ei ddefnyddio i talu am filiau cyfredol na fedrwch fforddio eu talu.

Taliad Cymorth Unigol (IAP)

Grant i’ch helpu chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt i fyw’n annibynnol yn eu cartref neu eiddo yr ydych chi neu nhw yn symud iddo.

Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio’r grant:

Defnyddiwch y grant i dalu am:

  • oergell, ffwrn neu beiriant golchi a ‘nwyddau gwyn’ eraill
  • celfi cartref tebyg i welyau, soffas a chadeiriau

I gael mwy o wybodaeth ar gymhwyster a sut i wneud cais, ewch i  www.gov.wales/discretionary-assistance-fund-daf

 

Cymru Gynnes

Cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sy’n edrych am wybodaeth neu help gydag ymholiadau ynni cartref: https://www.warmwales.org.uk

Nyth Cymru

Mae Nyth Cymru yn darparu gwelliannau effeithiolrwydd ynni cartref am ddim tebyg i foeler newydd, gwres canolog neu insiwleiddia ar gyfer preswylwyr cymwys. Ewch i Hafan – Nyth Cymru – nyth.llyw.cymru neu ffonio 0808 808 2244.

Cael trafferth talu am Danwydd

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael, ond weithiau mae'n anodd gwybod beth yw e neu ble i ddechrau felly rydyn ni wedi llunio'r llyfryn hwn i helpu. Cliciwch yma i weld.

Cyngor Blaenau Gwent Gadewch i ni siarad am GYMORTH YCHWANEGOL

Os ydych ar fesurydd cyn talu, yn cael trafferth ac angen cymorth neu gyngor pellach, ewch i'n hybiau cymunedol lle bydd un o'n cynghorwyr ar gael i'ch cefnogi. 

Cliciwch ar y ddolen https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/ i ddod o hyd i Hwb yn agos atoch chi.