Beth yw’r Bartneriaeth?
Grŵp ymrwymedig a brwdfrydig o sefydliadau llywodraeth leol ac anllywodraethol yw’r Bartneriaeth Bioamrywiaeth sy’n gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn a gwella bioamrywiaeth leol ym Mlaenau Gwent.
Os oes diddordeb gennych mewn cadwraeth natur a bod yn rhan o’r bartneriaeth, cysylltwch 0226 Swyddog Bioamrywiaeth.
Beth yw’r Cynllun?
Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) yn darparu fframwaith ar gyfer cadwraeth natur o fewn Blaenau Gwent. Mae’r Cynllun yn cynnwys rhestrau o blanhigion, anifeiliaid a chynefinoedd sydd o bryder cadwraethol ym Mlaenau Gwent. Mae’n amlinellu’r blaenoriaethau a fydd yn arwain gwaith yr holl sefydliadau hynny yn y Fwrdeistref gyda diddordeb mewn cadwraeth natur.