Gwent Gydnerth

Ariannwyd prosiect Gwent Gydnerth gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. Daeth y rhaglen i ben yn haf 2022, dangosodd ddull a chysylltedd ar draws y dirwedd gyfan ar draws De-ddwyrain Cymru; i greu a gwella rhwydweithiau ecolegol gwydn, gan ddarparu adnoddau naturiol a reolir yn gynaliadwy ac egwyddorion i gymunedau werthfawrogi eu tirweddau a'u bywyd gwyllt.

Grid Gwyrdd Gwent yw chwaer-brosiect Prosiect Gwent Gydnerth. Mae'n gydweithrediad rhwng pum awdurdod lleol Gwent, gan weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid a rhanddeiliaid eraill. Am ragor o wybodaeth ewch i

Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth

Y weledigaeth yw Gwent sydd ag ecosystemau ffyniannus, sy'n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd fel digwyddiadau tywydd garw ac sy'n addasadwy i amodau newidiol, gan gefnogi poblogaethau cadarn o fywyd gwyllt a phlanhigion amrywiol Cymru. Mae ecosystemau'n darparu gwasanaethau a ddefnyddir yn gynaliadwy ac a werthfawrogir gan gymunedau yn y rhanbarth.

Er mwyn gwella gwydnwch ein hecosystemau, cynhyrchwyd adroddiad o'r enw 'Sefyllfa Byd Natur Gwent Gydnerth' a oedd yn edrych ar y data sy'n ymwneud â 100 o rywogaethau a grwpiau rhywogaethau ar draws Gwent. Yn dilyn yr adroddiad, cynhyrchwyd Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwent Gydnerth fel canllaw strategol tuag at adfer natur ar raddfa ranbarthol ar draws Gwent. Bydd y ddogfen hon hefyd yn cefnogi cynhyrchu tri chynllun gweithredu adfer natur lleol sy'n cwmpasu'r tair partneriaeth Natur Leol a geir yng Ngwent: Blaenau Gwent a Thorfaen; Caerffili; Sir Fynwy a Chasnewydd.

Cynhaliwyd cyfres o brosiectau ar gyfer adfer natur ar draws Gwent fel rhan o’r ffrwd gwaith. Yn dilyn thema dŵr ffres, cafodd pyllau eu hadfer, pyllau dŵr tymhorol eu creu a gosod neu greu cartrefi i adar ac anifeiliaid fel trochwyr, sigl-ei-gwt a dyfrgwn. Plannwyd dolydd gwlyb a chafodd llawer o sbwriel ei dynnu o afonydd. Nod yr holl brosiectau oedd helpu adferiad natur a hyrwyddo cydnerthedd a chysylltedd ein ecosystemau yng Ngwent.

Gallwch ddod o hyd i Gynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Blaenau Gwent a Thorfaen yma:

Cynllun Gweithredu Adferiad Natur Gwent Fwyaf

Dogfennau Cysylltiedig