
Mae llawer o fannau gwyrdd wedi'u gwasgaru ar draws y sir sy'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Mae pwysigrwydd y rhain, nid yn unig i fywyd gwyllt ond hefyd i'r gymuned leol, bellach wedi'i gydnabod yn eu dynodiad fel Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl), sy'n ardaloedd tir gwarchodedig a gallant gynnwys Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC) a/neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
Mae gan y Fwrdeistref bellach 12 Gwarchodfa Natur Leol gan gynnwys Dyffryn Tawel, sef y safle cyntaf i'w ddynodi ym 1998. Nod y Cyngor yw parhau i weithio gyda'r gymuned i reoli pob Gwarchodfa Natur Leol er budd y bobl leol, bywyd gwyllt a hyrwyddo gwydnedd ecosystemau.
Gwarchodfeydd Natur Lleol Blaenau Gwent
Gwybodaeth Gyswllt
Amgylchedd Naturiol
Cyfeiriad e-bost: Nadine.morgan@blaenau-gwent.gov.uk neu Rebecca.ward@blaenau-gwent.gov.uk