Cofrestru Tiroedd Comin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yw'r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin ar gyfer yr holl dir comin a gofrestrwyd ym Mlaenau Gwent. Sefydlwyd y Gofrestr o Dir Comin a Grinau Tref a Phentref a sefydlwyd dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965. Mae Deddf Tiroedd Comin 2006 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau cofrestru i barhau i gynnal y gofrestr o dir comin.

Rydym hefyd yn gyfrifol am ddal a chynnal y gofrestr o grinau trefi a phentref, fodd bynnag, nid oes unrhyw grîn tref na phentref wedi cofrestru ym Mlaenau Gwent ar hyn o bryd.

Dim ond gwasanaeth gweinyddol yw'r gwasanaeth Cofrestru Tiroedd Comin. Gallwn roi gwybodaeth am weithdrefnau, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Os ydych angen cyngor cyfreithiol neu ddehongliad o'r gyfraith, mae'n rhaid cael hyn yn annibynnol.

Caiff pob ardal o dir comin ei chofrestru yn y gofrestr tir comin dan rif uned unigryw. Cofrestrwyd yr unedau dilynol ym Mlaenau Gwent:

CL10 – Tir Comin Bedwellte
CL12 – Tir Comin Manmoel
CL13 – Tir Comin Carn-y-Cefn
CL14 – Tir Comin Mulfran
CL16 – Tir Comin Gwastod

Mae'r gofrestr ar bob uned yn cynnwys yr wybodaeth ddilynol:

  • TIR – mae hyn yn cynnwys disgrifiad o dir a gofrestrwyd fel tir comin
  • HAWLIAU – mae hyn yn cynnwys disgrifiad o hawliau tir comin (e.e. yr hawl i bori nifer benodol o dda byw e.e. 50 o ddefaid a 10 o geffylau) mewn rhan o'r tir comin sy'n arferadwy ac i ba dir mae'r hawliau hyn yn gysylltiedig.
  • PERCHNOGAETH – mae hyn yn cynnwys manylion (os ydynt yn hysbys) perchnogion y tir cofrestredig. Fodd bynnag, ni ddyfernir bod cofnodion yn yr adran hon o'r cofrestri yn derfynol yn y gyfraith.

Chwiliadau'r Gofrestr Tiroedd Comin

Gellir cynnal chwiliadau ar y gofrestr tiroedd comin i benderfynu os yw eiddo neu ddarn o dir ar neu'n agos at dir comin.

Os dymunwch gynnal chwiliad tiroedd comin, mae angen ffurflen CON29(O) (Ymholiadau Opsiynol ar yr Awdurdod Lleol Cwestiwn 22). Mae'n rhaid cyflwyno'r ffurflen a 2 gopi o fap arolwg ordnans yn dangos yr ardal i gael ei chwilio gyda'r ffi briodol. Gellir cyflwyno'r ffurflen hon un ai fel chwiliad ar ben ei hun neu gyda ffurflen CON29(R) (Ymholiadau Gofynnol yr Awdurdod Lleol).

Byddwn wedyn yn cynnal y chwiliad ac yn anfon y canlyniadau yn ôl o fewn 4-5 diwrnod gwaith.

Yn lle hynny, gellid cynnal chwiliad personol o'r gofrestr tiroedd comin. Ni chodir tâl am chwiliad personol ond mae angen gwneud apwyntiad. Gellir cynnal chwiliadau personol rhwng 10.00am a 12.00pm, a 2.00pm a 4.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc). Ffoniwch 01495 355086 i wneud apwyntiad os gwelwch yn dda.

Chwiliadau Hawliau Pori

Cynhelir chwiliadau hawliau pori er mwyn penderfynu p'un ai sydd gan dir fudd hawliau dros dir comin. Ni chaiff chwiliadau hawliau pori eu cynnwys ar ffurflen statudol, ond drwy anfon llythyr a chynllun gall y Cyngor perthnasol i'r Tir Comin ateb yr ymholiadau am hawliau.

Ffioedd Chwiliad

Math o chwiliad Ffi
Con29(O) ffurflen Q22 £12.00 (yn cynnwys TAW) Chwiliad Personol Am ddim
Chwiliad Personol Am ddim
Chwiliadau Hawliau Pori £61.00

 
Ffioedd am brynu copi o'r Gofrestr Tir Comin neu ei Fap Cofrestr

Copïau sydd eu hangen Ffi
Detholiad o'r map cofrestr £14.50
Map cofrestr lawn £19.50
Copi o gofrestr geiriad Tir Comin £11.50 am y 10 tudalen gyntaf a £0.75 pob tudalen wedyn


Dylai sieciau fod yn daladwy i "Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent".

Dylid anfon ceisiadau am chwiliadau a cheisiadau am gopïau o'r map neu gofnodion cofrestr at:

Swyddog Cofrestru Tiroedd Comin
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Heol y Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN

Gwaith Ar Dir Comin

Dylid cyfeirio cwestiynau'n ymwneud â datblygu neu gynnal gwaith ar dir comin at Arolygiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar faterion dan ddarpariaeth statudol Deddf Tir Comin 2006.

Grinau Trefi A Phentrefi

Yn unol ag Adran 15 Tiroedd Comin 2006, mae'n ofynnol i ni brosesu ceisiadau i gofrestru tir fel grîn tref neu bentref.

Mae'n rhaid gwneud ceisiadau ar Ffurflen 44 - Cais i gofrestru tir fel Grîn Tref neu Bentref. Mae'n rhaid i'r ffurflen gael ei chefnogi gan ddatganiad statudol a thystiolaeth bellach sydd fel arfer ar ffurf datganiadau tyst.

Frioedd Cais

Mae'r ffioedd dilynol yn weithredol ar gyfer ceisiadau y gellir eu gwneud i'r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin.

Dosraniad Ffurfiol dan Ddeddf 1965 Dosrannu hawliau yn y gofrestr pan mae'r tir y mae'r hawliau yn gysylltiedig wedi ei rannu Dim ffi
Adran 15 Deddf Tiroedd Comin 2006 Cofrestru grîn tref neu bentref newydd Dim Ffi
Adran 19 (2) (a) neu (c)
Deddf 2006
Cywiro camgymeriad a wnaed gan yr awdurdod cofrestru neu ddileu cofnod ddyblyg o gofrestr Dim Ffi
Adran 19 (2) (b) Deddf 2006 Cywiriad, ar gyfer diben a ddisgrifir yn adran 19(2)(b) h.y. cywiro unrhyw gamgymeriad, lle na fyddai'r newid yn effeithio ar -
(i) faint unrhyw dir a gofrestrwyd fel tir comin neu fel grîn tref neu bentref; neu
(ii) yr hyn y gellir ei wneud yn rhinwedd hawl tir comin;
£306
9(2)(d) neu (e) Deddf 2006 Cywiriad, i ddiweddaru manylion unrhyw enw neu gyfeiriad, neu i roi ystyriaeth i ychwanegiad neu grebachiant £51
2, paragraff 2 neu 3, i Ddeddf 2006 Peidio cofrestru tir comin neu grîn tref neu bentref (h.y. heb gofrestru a dylai fod wedi bod) Dim Ffi
2, paragraff 4,
i Ddeddf 2006
Tir gwastraff maenordy heb gofrestru fel tir comin (h.y. heb gofrestru a dylai fod wedi bod) Dim Ffi
2, paragraff 5,
i Ddeddf 2006
Grîn tref neu bentref sydd wedi cofrestru'n anghywir fel tir comin Dim Ffi
Atodlen 2, paragraffau 6-9,
i Ddeddf 2006
Dadgofrestru tir neilltuol sydd wedi cofrestru fel tir comin neu fel grîn tref neu bentref drwy gamgymeriad £2,040

Dogfennau Cysylltiedig

Gwbodaeth Cyswllt

Adran Pridiannau Tir
Rhif Ffôn:01495 355086
Cyfeiriad:Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost:land.charges@blaenau-gwent.gov.uk