Twyll Budd-daliadau

Mae Twyll Budd-daliadau yn drosedd sy'n digwydd pan fo unigolyn yn wybyddus neu'n anonest yn cael mwy o fudd-dal nag mae ganddynt hawl iddo.

Mae twyll budd-daliadau yn cynnwys:

  • Peidio hysbysu am newid amgylchiadau fydd yn effeithio ar hawl i fudd-daliadau e.e. peidio hysbysu fod partner yn byw gyda chi
  • Rhoi gwybodaeth heb fod yn wir wrth hawlio budd-dal
  • Atal gwybodaeth e.e. peidio datgan enillion, cynilion, pensiynau ac ati

Gofynnir i chi ffonio Llinell Arbennig Genedlaethol Twyll Budd-daliadau i hysbysu'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am dwyll budd-daliadau

  • 0800 678 3722 (Cymraeg)
  • 0800 854 440 (Saesneg
  • Ffôn Testun: 0800 328 0512

Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 8am 6pm

Gallwch hefyd wneud adroddiad drwy'r post neu ar-lein os amheuir twyll budd-daliadau.

Adroddiad ar-lein neu lenwi ffurflen ymholiad  i'r Awdurdod Lleol os ydych yn amau fod unigolyn yn hawlio Cymorth Treth Gyngor nad oes ganddynt hawl iddo.

Cyfeiriad post ar gyfer adroddiadau twyll:

National Benefit Fraud Hotline
PO Box 224
Preston
PR1 1GP 

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk