Apeliadau Budd-dal Tai

Mae gennych hawl i apelio os ydych yn anghytuno gyda'n penderfyniad ar Fudd-dal Tai.

Bydd person gwahanol yn ail-asesu eich cais i'r un a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.

Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym o fewn un mis o ddyddiad anfon y llythyr penderfyniad pam y credwch fod y penderfyniad yn anghywir.

Gallwch ofyn am y dilynol:

  • edrych ar y penderfyniad
  • esbonio'r penderfyniad
  • apelio at Dribiwnlys Annibynnol

Byddwn yn anfon llythyr atoch yn esbonio'r penderrfyniad newydd os y gellir newid y penderfyniad. Gallwch ofyn i ni edrych ar hyn eto os nad ydych yn cytuno.

Byddwn yn anfon llythyr atoch yn esbonio pam os na ellir newid y penderfyniad.

Os ydych y tu allan i'r terfyn amser un mis gallwch wneud cais hwyr am apêl. Y terfyn amser uchaf ar gyfer apêl hwyr yw 13 mis o ddyddiad y penderfyniad.

Bydd angen i chi esbonio pam ei bod yn rhesymol cytuno i'ch cais a pham fod gan eich achos haeddiant. Gofynnir i chi gynnwys manylion unrhyw amgylchiadau arbennig a wnaeth eich atal rhag anfon eich apêl yn gynharach.

Mae'n bwysig pwysleisio nad oes gwarant y caiff apeliadau a gyflwynir y tu allan i'r terfyn amser o un mis eu derbyn.

Os hoffech apelio yn erbyn penderfyniad Gostwng Treth Gyngor, yna dylid cyfeirio hyn yn gyntaf mewn ysgrifen at y Cyngor ac wedyn i'r Tribiwnlys Prisiant. Mae gwybodaeth fanwl am y broses yma ar gael ar wefan y Tribiwnlysoedd Prisiant.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai

Rhif Ffôn: 01495 311556

Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk