Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus
Disodlwyd 19 o bwerau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 a sefydlu 6 phwer ehangach yn eu lie. Bu hyn o gymorth i symleiddio gweithdrefnau i ganiatau ymateb cyflymach i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cyflwynodd Penned 2 (Adrannau 59 i 75) Deddf 2014 bwer newydd o'r enw Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO).

Pwy gaiff wneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus?
Cynghorau sy'n gyfrifol am wneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, er bod y pwerau gorfodi yn llawer ehangach. Gall Swyddogion yr Heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol a phersonau wedi ei hawdurdodi, sy'n golygu person sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol a wnaeth y gorchymyn, orfodi'r gwaharddiadau a'r gofynion.

Beth yw Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus?
Diben y PSPO yw ymdrin a niwsans neu broblem benodol mewn ardal benodol sy'n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol, yn amodol ar fodloni'r 'prawf sail resymol' isod. Mae'r PSPO yn gosod amodau ar ddefnyddio'r ardal honno ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau y gall y mwyafrif sy'n cydymffurfio a'r gyfraith ddefnyddio a mwynhau'r mannau cyhoeddus, yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Prawf Sail Resymol
Caiff awdurdod lleol wneud PSPO ar sail resymol cyn belled a bod y ddau amod canlynol wedi eu bodloni:

  • Yn gyntaf, mae gweithgareddau a gynhelir mewn man cyhoeddus wedi cael neu'n debygol o gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y rhai sydd yn yr ardal;
  • Yn ail, mae'r gweithgareddau hynny yn, neu'n debygol o fod yn barhaol, yn gyson eu natur neu'n afresymol; ac yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a osodir gan yr hysbysiad.

i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a'r Tim Polisi, Diogelwch y Gymuned ar 01495 311556.