Camddefnyddio Sylweddau

Mae gan y Cyngor ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae targedu camddefnyddio sylweddau yn un o flaenoriaethau allweddol partneriaid y Bartneriaeth Deg a Diogel oherwydd y niwed amlwg i'r unigolyn sy'n camddefnyddio sylweddau, y niwed i'w teuluoedd a'u cymunedau.

Caiff blaenoriaethau camddefnyddio sylweddau eu gweithredu gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gwent ar ran Blaenau Gwent. Mae'r bwrdd yn gweithio ar draws ardal Gwent i ostwng camddefnyddio sylweddau drwy gyfuniad o addysg, ataliaeth, triniaeth ac adsefydlu.

Os ydych angen help neu gyngor:

Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth ddwyieithog Cymru-gyfan ar gyffuriau ac alcohol. Mae ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae galwadau o linellau daear yn y Deyrnas Unedig yn rhad ac am ddim (gall rhai rhwydweithiau ffôn symudol godi tâl).

Os yw'r sefyllfa'n argyfwng ffoniwch 999.