Atal Eithafiaeth Dreisgar

Manceinion

Yn dilyn y digwyddiadau ym Manceinion, rydym  yn gofyn i bob cymuned i gynnig cymorth ac arweiniad i eraill. Nodwyd gan Yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd:
 
"Dylai’r cyhoedd aros yn effro ond nid yn frawedig. Os oes ganddynt unrhyw beth i'w adrodd, dylai fynd at yr heddlu. Ond mae gennyf ddau beth pellach i'w ychwanegu. Mae dinas fawr Manceinion wedi  cael ei effeithio gan derfysgaeth o’r blaen . Nid oedd ei ysbryd wedi ildio; parhaodd ei gymuned. Y tro hwn cafodd ei ymosodiad penodol ar y mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas – a'i bwriad oedd hau ofn – ei bwriad yw rhannu. Ond ni lwyddir."
                                                                       
#WeStandTogether yw menter Genedlaethol dan arweiniad y gymuned i ddathlu ein gwahaniaeth: hyrwyddo parch a goddefgarwch; adeiladu Teyrnas Unedig gryfach, mwy diogel. Yng Ngwent, r ydym yn ffodus iawn i fod yn Sir ddiogel, oddefgar ac amrywiol, ond rydym eisiau i chi i ymuno â mudiad i ddathlu ein hamrywiaeth a gwahaniaethau ac annog ymdeimlad o undod.

Mae'r strategaeth atal yn rhan o strategaeth gwrth-derfysgaeth CONTEST y Deyrnas Unedig. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau statudol a gwirfoddol drwy Fwrdd CONTEST Gwent. Mae'r bwrdd yn goruchwylio gweithrediad lleol CONTEST.

Mae gan strategaeth CONTEST bedair elfen allweddol:

  • Cwrso - stopio ymosodiadau terfysgaeth
  • Atal - stopio pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi eithafiaeth treisgar
  • Diogelu - cryfhau ein diogeliad yn erbyn ymosodiad terfysgol
  • Paratoi - lle na ellir atal ymosodiad, i liniaru ei effaith.

Gyda'r Deyrnas Unedig yn wynebu bygythiad parhaus o derfysgaeth ryngwladol ac eithafiaeth ddomestig, nid oes neb mewn sefyllfa well nag aelodau'r cyhoedd i sylwi ar weithgaredd ac ymddygiad o fewn eu cymuned eu hunain.

Gall fod yn ddim, ond os ydych yn ei weld neu ei amau - rhowch adroddiad amdano drwy ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu 01633 838111 neu os oes argyfwng, drwy ddeialu 999. Fel arall, gallwch ffonio’r  llinell gymorth Gwrth-Derfysgaeth ar 0800 789321.                            

Hefyd, gallwch gyfeirio’n ddienw cynnwys terfysgol sydd ar y rhyngrwyd   at Uned Cyfeirio Rhyngrwyd Gwrth Derfysgaeth yn: www.direct.gov.uk/reportingonlineterrorism

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Polisi (Diogelwch Cymunedol)
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: Helena.hunt@blaenau-gwent.gov.uk