Ystafell Cit Cymunedol - Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio mewn tîm ag Aneurin Leisure Trust

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi gosod ei bin dillad chwaraeon - 'Ystafell Cit Cymunedol' - cyntaf yn Y Den yn Abertyleri, Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Parc Busnes Roseheyworth. Bydd y dillad chwaraeon a roddir yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gymuned fel nad yw cit priodol yn dod yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Syniad tîm datblygu chwaraeon Aneurin Leisure Trust oedd y dull arloesol hwn o ailgylchu dillad chwaraeon ac maen nhw’n gweithio gyda sefydliadau, trigolion, busnesau ac ysgolion lleol i ddosbarthu cit ar draws y gymuned felly os hoffech chi roi, ymholi, ymuno fel partner neu fod yn Ganolfan Cit Cymunedol, e-bostiwch ckr@aneurinleisure.org.uk neu ffoniwch 07976 635655. 

Mae rhoddion yn mynd i'r Ystafell Cit Cymunedol yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri lle gallwch holi am y dillad chwaraeon sydd ar gael. Er mwyn gwneud pethau’n fwy hygyrch i bawb bydd Canolfannau Cit Cymunedol ledled y fwrdeistref yn cynnig mannau gollwng a chasglu. Mae rhestr o leoliadau biniau rhoi, canolfannau a'r hyn y gellir ei dderbyn isod.

Beth y gellir ei dderbyn     Beth na ellir ei dderbyn
Dillad chwaraeon cyffredinol, treinyrs a bŵts Dillad wedi'u staenio neu eu difrodi
Pâr o sgidiau wedi'u clymu gyda'i gilydd, heb faw neu fwd Treinyrs a bŵts nad ydynt mewn pâr
Dillad sy'n lân ac wedi'u golchi Offer chwaraeon

 

Lleoliadau biniau rhoi
Y Den, Canolfan Ailgylchu Roseheyworth, Parc Busnes Roseheyworth, Ffordd Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP
Llyfrgell Abertyleri, Bryn yr Orsaf, Abertyleri NP13 1TE 
Canolfan Chwaraeon Abertyleri, Stryd Alma, Abertyleri NP13 1QD 
Llyfrgell Blaenau, The Institute, Stryd Fawr, Blaenau, Abertyleri NP13 3BN 
Llyfrgell Brynmawr, 3 Sgwâr y Farchnad, Brynmawr, Glynebwy NP23 4AJ
Llyfrgell Cwm, Stryd Canning, Cwm, Glynebwy NP23 6LW
Llyfrgell Glynebwy, 21 Stryd Bethcar, Glynebwy NP23 6HH
Canolfan Chwaraeon Glynebwy, Lime Ave, Glynebwy NP23 6GL 
Llyfrgell Tredegar, 10 Stryd Haearn, Tredegar NP22 3RJ  
Canolfan Chwaraeon Tredegar, Lôn y Stabl, Tredegar NP22 4BH

 

Lleoliadau Canolfannau Cit Cymunedol: 
Clwb Pêl-droed Abertillery Bluebirds - Stadiwm Cwm Nant-y-Groes, Chwe Chloch, Abertyleri NP132PR
Chanolfan Chwaraeon Abertyleri NP13 1QD
A. B. B. Blaenau'r Cwm - Hen floc gwyddoniaeth, Willowtown, Teras Garfield, Glynebwy NP23 6H
Clwb Pêl-droed Nant-y-glo - Parc Dyffryn, Blaenau, Abertyleri NP13 3DA
Clwb Pêl-droed Tref Tredegar - Maes Hamdden Tredegar NP22 3NG, a Chlwb Rygbi Tredegar NP22 3NN

 

Aelodau staff CBS Blaenau Gwent a rhai o dîm Datblygu Chwaraeon Aneurin Leisure yn dangos y bin rhoi newydd yn Y Den.