Rydym yn adolygu ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer yr ardal i helpu i wneud cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hygyrch ar gyfer teithiau bob dydd.

Ers cyhoeddi'r map ddiwethaf, mae gwelliannau wedi'u gwneud i lwybrau presennol ac mae cyfleusterau newydd wedi'u sefydlu er budd cerddwyr, pobl sy'n olwyno a beicwyr.
Nawr, rydym eisiau i drigolion helpu i nodi problemau a llunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Teithio Llesol yw'r enw a roddir ar siwrneiau pellter byr bob dydd y mae pobl yn eu gwneud ar droed neu ar feic fel i'r gwaith, yr ysgol, y coleg neu i gyrraedd y siopau a chyfleusterau eraill.
Gall hyn hefyd gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd eraill.
Yn ogystal ag ymgynghoriad ar-lein, mae cyfres o weithdai galw heibio hefyd wedi'u trefnu i unrhyw un sydd â diddordeb:
- Llyfrgell Tredegar – 23 Medi, 11yb i 1yp
- Llyfrgell Glynebwy – 25 Medi, 11yb i 1yp
- Llyfrgell Cwm – 29 Medi, 11yb i 1yp
- Llyfrgell Abertyleri – 30 Medi, 11yb i 1yp
- Llyfrgell Brynmawr - 2 Hydref, 11yb i 1yp
- Llyfrgell Blaenau – 8 Hydref, 11yb i 1yp
- Tŷ Ebwy Fach, Six Bells – 13 Hydref, 11yb – 1yp
- Beaufort Welfare Hall, Glynebwy - 16 Hydref, 11yb– 1yp
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd:
"Rydym am ei gwneud hi'n haws, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bobl gerdded, olwyno a beicio ar draws ein cymunedau, ac mae'r Map Teithio Llesol yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydym yn annog trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a rhannu eu barn. Mae gwybodaeth leol yn bwysig wrth nodi ble mae angen gwelliannau a'n helpu i greu llwybrau sy'n cysylltu pobl yn well ag ysgolion, gweithleoedd, gwasanaethau a chyfleoedd hamdden.
"Rydym am glywed gan gynifer o bobl â phosibl i sicrhau bod y map yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau nawr ac yn y blynyddoedd i ddod."
Ewch draw i Cymryd Rhan Blaenau Gwent i ddweud eich dweud nawr.