Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ymweld â’r GRhA

Digwyddodd yr ymweliad er mwyn cyfarfod aelodau bwrdd y GRhA sy’n chwarae rhan yn y gwasanaeth cydweithredol ac i fynd ar daith o gwmpas y neuaddau data modern.

Mae’r GRhA yn gydweithrediad rhwng Heddlu Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Mae’r Ganolfan Rhannu Adnoddau ym Mlaenafon ar y blaen o ran gwasanaethau canolfannau data yng Nghymru ac mae’n darparu gwasanaeth i gyfundrefnau partner ynghyd â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Prifysgol Abertawe a’r sector preifat.

Rhoddodd Matt Lewis, Prif Swyddog Gweithredu yn y GRhA drosolwg i Ysgrifennydd y Cabinet o strategaeth y GRhA ac amlinellodd y manteision a’r cyfleoedd sy’n bodoli pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn ymuno â’i gilydd, cyn mynd ag Ysgrifennydd y Cabinet ar daith y tu ôl i’r llenni o gwmpas y neuaddau data ar gyfer yr heddlu, iechyd a llywodraeth leol.

Meddai Matt Lewis: ‘Rydym yn gweithredu mewn amgylchedd lle mae atebion technoleg sengl yn medru bod yn syml i’w gweithredu ac eto’n anodd symud ymlaen gyda nhw. Ein strategaeth yw defnyddio llwyfan technoleg ‘Unwaith i Gymru’ i gyfuno’r galw a brocera cyflenwad gwasanaethau TG i’r Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.’

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, Paul Matthews: ‘Mae’r GRhA yn enghraifft wych o rannu gwasanaethau yn gweithio ar draws amrywiol sectorau ac amrywiol ranbarthau gyda mwy o bartneriaid sector cyhoeddus ar fin ymuno.

‘Mae atebion fel hyn yn medru bod yn well gwerth am arian i’r pwrs cyhoeddus ng Nghymru ac mae’n amddiffyn gwasanaethau gwerthfawr.’

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: ‘Mae’r GRhA yn fodel rhagorol o lywodraethu rhanbarthol gydag atebolrwydd lleol. Mae partneriaid y GRhA yn ‘glymblaid o’r parod’, cyfundrefnau sy’n meddwl yr un fath sy’n gwneud buddsoddiad rhanbarthol mewn atebion a rennir, y gellir yn hawdd eu mwyhau i sectorau a chyfundrefnau eraill.’

Meddai Mark Drakeford: ‘Hoffwn ddiolch i aelodau’r GRhA am fy ngwahodd. Mae swyddogaethau cefn swyddfa  a rennir, fel TG, yn chwarae rhan annatod wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac mae’r GRhA yn dangos yn union beth ellir ei gyflawni gyda gwaith rhanbarthol o’r maint a’r raddfa hon.

“Mae gwaith rhanbarthol systematig a mandadol rhwng awdurdodau lleol a rhannu gwasanaethau yn fwy cyffredinol yn rhywbeth rydym yn ymgynghori arno ar hyn o bryd fel rhan o’n Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn ar sut medrwn symud ymlaen gyda hyn.”