Ysgol Pen-y-Cwm yn ennill gwobr fawreddog Cadwch Gymru'n Daclus am Drawsnewid Cymunedol

Mae ysgol ym Mlaenau Gwent wedi ennill gwobr fawreddog Cadwch Gymru’n Daclus am drawsnewid rhan segur o dir eu hysgol yn hafan ffyniannus i fywyd gwyllt.

Anrhydeddwyd Ysgol Pen-y-Cwm yng Nglynebwy gyda'r Wobr Trawsnewid Cymunedol yng Ngwobrau Cadwch Gymru'n Daclus 2025.

Mae disgyblion, staff a hyd yn oed rhieni wedi gweithio gyda'i gilydd ar y prosiect, gan ddefnyddio cyllid gan Cadwch Gymru'n Daclus, a chefnogaeth gan Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Blaenau Gwent a Cheidwaid Blaenau Gwent a helpodd i adeiladu ramp hygyrch fel y gall pawb fwynhau'r ardd. Mae'r ardd bellach yn cynnwys pwll bach, gwelyau blodau, cartrefi bwystfilod bach a draenogod a chyfleusterau i dyfu ffrwythau a llysiau sy'n cael eu defnyddio mewn gwersi coginio yn yr ysgol.

Gwnaeth ymdrechion yr ysgol i drawsnewid safle segur yn hafan ffyniannus i fywyd gwyllt a gofod croesawgar i ddysgwyr, staff a'r gymuned ehangach greu ‘argraff fawr’ ar y beirniaid. Gwnaethant ganmol 'gardd lewyrchus, gwbl hygyrch' yr ysgol, gan nodi bod y prosiect 'hyd yn oed yn fwy rhyfeddol' gan ei fod wedi’i ddylunio a'i adeiladu gan ddysgwyr eu hunain.

Canmolodd y beirniaid hefyd 'greadigrwydd, gwaith tîm ac ymroddiad' yr ysgol, gan ddweud ei bod 'nid yn unig wedi adfywio'r gofod ond wedi creu etifeddiaeth barhaol'.

Roedd dau aelod o staff a dau ddysgwr yn falch o gynrychioli'r ysgol yn y seremoni wobrwyo yn Llandudno, lle cawsant dystysgrif a gwobr o £100 mewn talebau garddio.

Meddai’r Pennaeth, Deborah Herald:

"Rydw i mor hynod o falch o'n dysgwyr a'n staff am eu gweledigaeth a'u gwaith caled ar y prosiect hwn. Mae'r wobr yn dyst i'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymuned yn gweithio gyda'i gilydd i greu rhywbeth ystyrlon a chynaliadwy."

Roedd yr Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, y Cynghorydd Sue Edmunds, yn falch iawn o weld yr ardd gyda’i llygaid ei hun. Meddai:

"Waw! Am brosiect hollol wych - nid yn unig mae'n ofod allanol gwych i ddysgwyr a staff ei fwynhau, mae hefyd yn cyfrannu tuag at nodau bioamrywiaeth a chynaliadwyedd. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â'n hysgolion i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn gallu ffynnu, ac mae eu lles emosiynol a chorfforol yn allweddol i hyn. Mae cael cydnabyddiaeth genedlaethol i’r holl waith caled gan Cadwch Gymru'n Daclus yn goron ar y cyfan!"

Meddai'r dysgwr Ethan Daly:

"Fy rôl i yn y prosiect oedd helpu gyda'r danfoniadau, clirio'r ddaear, helpu i osod y llwybr graean/cerrig, llenwi'r pwll a'r planwyr gyda dŵr a phridd, plannu, a gwneud teithiau diddiwedd gyda'r whilber. Fy hoff rôl oedd helpu i glirio’r tir oherwydd fe wnes i fwynhau cloddio a gwneud y ddaear yn wastad ac yn ddiogel gan ddefnyddio'r offer garddio newydd a gawsom gan Cadwch Gymru'n Daclus. Fy moment fwyaf balch oedd ennill y Wobr Trawsnewid Cymunedol yn Llandudno. Doeddwn i erioed wedi bod yng Ngogledd Cymru o'r blaen ac yn meddwl nad oedd cyfle gyda ni i ennill, ond roedd fy mysedd wedi’u croesi. Fe wnaeth i mi deimlo'n hapus iawn ac yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i greu."

Dywedodd y Rheolwr Prosiect a'r Cynorthwy-ydd Addysgu James O'Connell:

"Rwy'n hynod falch o'n holl ddysgwyr a gwirfoddolwyr am yr hyn rydyn ni wedi gallu ei gyflawni wrth greu'r Ardd Bywyd Gwyllt. Roedd llawer o rwystrau a heriau yn ystod y prosiect hwn, ond mae'n dyst i ni fel cymuned ysgol y gall dyfalbarhad, gwaith caled ac ymroddiad parhaus ddod â llwyddiant yn y pen draw, sydd wedi'i gydnabod yng Ngwobrau Cadwch Gymru'n Daclus yn ddiweddar."