Ysgol Gynradd Six Bells - gwaith i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd

Wedi'i chynllunio i ddarparu cyfleusterau dysgu modern yr 21ain ganrif ar gyfer dros 300 o ddisgyblion, gan gynnwys darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, bydd yr ysgol yn disodli campws Bryngwyn Road a Queen Street ac yn rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri a agorodd ym mis Medi 2016. Cefnogir yr adeilad gwerth £7 miliwn gyda chyllid gan y Cyngor a Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Y gwaith cyntaf ar y safle fydd gwaith archwilio sy'n cynnwys ymchwiliadau pellach i'r safle – gyda'r prif waith yn cychwyn ar ôl cwblhau'r gwaith hwn. Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn i'r ysgol ac mae'r contractwr cyfnod cyn-adeiladu penodedig, Morgan Sindall, wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor ar ddyluniad ar gyfer yr adeilad a fydd yn cyd-fynd ag amgylchedd yr ardal leol. Penodir contractwr ar gyfer prif gyfnod y gwaith adeiladu cyn y Nadolig.

Gweithiodd tîm Trawsnewid Addysg y Cyngor gydag aelodau o'r gymuned leol i edrych ar safbwyntiau a godwyd gan bobl leol, gan gynnwys mynediad i gofeb y Guardian a materion parcio a phriffyrdd. Arweiniodd hyn at ddiwygio nifer o agweddau ar y cais cynllunio gwreiddiol.

Meddai' Cynghorydd Clive Meredith, Aelod Gweithredol dros Addysg y Cyngor:

"Clustnodwyd yr hen safle pwll glo yn Six Bells ar gyfer defnydd addysgol ers y 1990au, felly mae'n dda gweld y prosiect hwn yn parhau, yn y cyfnod datblygu hwn. Rydym wedi cydnabod o'r blaen bod cynnydd o ran yr adeiladu wedi bod ychydig yn arafach na'r hyn a nodwyd yn gyntaf, ond nid yw hyn yn anarferol gyda phrosiectau o'r maint a'r cymhlethdod hwn, ac mae ein haddewid i gyflwyno'r ysgol wedi parhau.

"Mae'n wych meddwl pan fydd yr ysgol yn barod, bydd y disgyblion yn trosglwyddo o'u hysgol Fictoranaidd dyddiedig ac yn symud i mewn i gyfleuster addysgol modern newydd sbon y maent wir yn ei haeddu. Mae codi dyheadau a chyflawniadau ein holl ddysgwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth flaenllaw i'r Cyngor ac mae gallu darparu amgylcheddau o'r radd flaenaf, i'n plant a'n pobl ifanc, i'w galluogi i ffynnu a dysgu yn rhan bwysig o hyn.

"Bydd adeilad newydd Ysgol Gynradd Six Bells yn ymuno â'r nifer cynyddol o straeon llwyddiant o dan faner Ysgolion yr 21ain Ganrif a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n anelu at foderneiddio'r ystad ysgol i barhau i gyflawni ein hymrwymiad i wella safonau ysgol a pherfformiad addysg."

Agorodd Cymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016 a gwelodd bum ysgol yn Abertyleri yn dod ynghyd fel un cymuned ddysgu 3 - 16, ond yn cadw safleoedd presennol. Yr ysgolion a ddaeth ynghyd yw: Ysgol Gyfun Abertyleri (campws uwchradd bellach); Ysgol Gynradd Abertyleri (Campws Tillery St bellach); Ysgol Gynradd Bryngwyn (Campws Bryngwyn Rd bellach); Ysgol Gynradd Queen Street (Campws Queen St bellach) ac Ysgol Roseheyworth Millennium (Campws Roseheyworth Rd bellach).