Ysgol Gynradd Deighton yn Ennill Gwobr Genedlaethol Fawreddog

Gan frwydro yn erbyn cystadleuaeth gref o ysgolion cynradd ac uwchradd, o sectorau gwladol a phreifat, llwyddodd Ysgol Gynradd Deighton o Dredegar i sicrhau’r tlws ar gyfer 2017.   Dyma’r unig ysgol yng Nghymru i ennill gwobr yn y digwyddiad, sy'n dipyn o gamp.

Mae'r gwobrau'n ddigwyddiad dathlu blynyddol ledled y DU gan y sefydliad Addysg Busnes sy'n cefnogi gwaith lle mae ysgolion yn alinio gwaith eu disgyblion gyda chyflogwyr a darparwyr allanol.  Mae prosiect "Overdrive" Deighton wedi eu harwain i weithio gyda Cylchdaith Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, lle gweithiodd disgyblion gyda'u hadrannau animeiddio ac addysg i gynhyrchu eu gêm gyfrifiadur eu hunain yn seiliedig ar yrru. Maent hefyd wedi gweithio gyda "Value Added" i gynhyrchu ap o amgylch eu car cit trydan, "Blue Flash", y maent wedi ei ddatblygu, ei adeiladu a’i rasio gyda help gan Ron Skinner.

Dywedodd y Pennaeth, Mike Gough:
"Rwy'n hynod o falch o'r anrhydedd hwn sy'n cydnabod gwaith y staff a'n disgyblion yn ystod y flwyddyn i wneud ein cwricwlwm yn un perthnasol, cyffrous a heriol. Rydym yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr ein bod yn paratoi ein plant ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Mae ein partneriaid ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Cylchdaith Cymru a'r gefnogaeth wych a gawsom gan Ron Skinner wedi gwneud eleni yn un arbennig. Mae Ms Kaya a Mrs Wangiel hefyd yn haeddu pob clod am fwrw ymlaen â'r prosiect "Overdrive" a gwneud yn siŵr bod ein dysgwyr yn cael pob cyfle i gael y cyfleoedd bywyd gorau posibl drwy eu haddysg. "

Cyflwynwyd y wobr gan Stephen Drew o "Educating Essex fame" a chynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty Grange St Pauls, Llundain.