Ysgol Gyfun Tredegar yn Ennill Gwobrau Uchel Eu Parch

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar gyda thair gwobr uchel eu parch sy’n tynnu sylw at ei hymrwymiad i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i'w myfyrwyr sy’n eu galluogi i gyflawni.

Gwobr Aur Marc Ansawdd Gwrth-Fwlio

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi llwyddo i gyflawni gwobr Aur Marc Ansawdd Gwrth-Fwlio. Hi yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru a'r drydedd yn y DU i ennill yr anrhydedd hon. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad diwyro'r ysgol i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i bob dysgwr. Diolch yn arbennig i Mrs. Lloyd, Mr. King, a Miss Yates, sydd wedi gweithio ochr yn ochr â'r Llysgenhadon Gwrth-Fwlio dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau'r cyflawniad gwych hwn i gymuned yr ysgol.

Mwy o wybodaeth yma: Fframweithiau arfer gorau gwrth-fwlio | Marc Ansawdd Gwrth-Fwlio

Gwobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau

Ym mis Mai, derbyniodd Ysgol Gyfun Tredegar Wobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau gan UNICEF UK. Mae'r wobr hon yn cydnabod ysgolion sy'n sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu am eu hawliau fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'u bod yn cael manteisio ar yr hawliau hyn. Dathlodd yr ysgol y cyflawniad hwn gyda sesiwn ffotograffau gyda myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn. Ar hyn o bryd Ysgol Gyfun Tredegar yw'r unig ysgol uwchradd ym Mlaenau Gwent i gael ei chydnabod fel ysgol aur ac mae’n un o ddim ond chwe ysgol uwchradd aur yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth ar wefan yr ysgol yma Ysgol Gyfun Tredegar – Ysgol sy’n Parchu Hawliau

A gwefan UNICEF yma Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau | UNICEF UK

Ailachrediad NACE

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei hailachredu fel ysgol NACE. Mae NACE yn gweithio gydag ysgolion, arweinwyr addysg ac ymarferwyr i wella'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr mwy abl ac yn cydnabod ysgolion sy'n herio ac yn cefnogi dysgwyr mwy abl i gyrraedd eu llawn botensial.

Canmolodd asesydd NACE waith y disgyblion, a ddangosodd yn glir fod yr her a'r disgwyliadau uchel yn gyson ar draws y cwricwlwm, ac roedd yn amlwg bod disgyblion wedi ymateb drwy’r ansawdd a'r balchder a ddangoson nhw yn eu gwaith. Mwynhaodd wrando ar ddisgyblion a staff yn siarad mor angerddol a chadarnhaol am ba mor dda mae dysgwyr yn cyflawni a sut maen nhw’n cael eu cefnogi i sicrhau eu bod yn cael eu hymestyn a'u herio i gyflawni eu llawn botensial.

Mae'r gwobrau hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad cymuned gyfan yr ysgol. Mae Ysgol Gyfun Tredegar yn parhau i ymdrechu am ragoriaeth a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Mwy o wybodaeth yma: Ynglŷn â NACE

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Leave, 'Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth o'r fath. Mae pob gwobr yn dathlu sut mae cymuned ein hysgol yn gweithio gyda'i gilydd i lwyddo, ac yn dangos yn glir ymroddiad ac ymrwymiad ein staff i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ddysgu.'