Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm yn dathlu adroddiad arolwg

Mae disgyblion a staff Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm yn dathlu ar ôl derbyn adroddiad arolwg rhagorol gan Estyn. 

Mae'r ysgol yn awr wedi'i lleoli ar safle'r hen waith dur yng Nglynebwy ac mae ganddi 112 disgybl rhwng 3 a 19 oed, i gyd gyda datganiadau o anghenion addysgol arbennig ar gyfer anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog neu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. 

Dyfarnodd yr arolwg diweddar fod yr ysgol yn 'dda' ym mhob categori, gyda sylwadau'n cynnwys:

  • Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu yng nghyswllt eu galluoedd ac anghenion cydnabyddedig
  • Mae trefniadau effeithlon iawn i gefnogi iechyd a llesiant disgyblion
  • Caiff disgyblion gynnig ystod eang a chytbwys o brofiadau dysgu perthnasol o fewn a thu hwnt i'r ysgol
  • Mae gan arweinwyr a rheolwyr ymrwymiad cryf i wella ysgolion

Dywedodd Darya Williams, Pennaeth yr ysgol:

Mae'r ysgol yn anelu i rymuso a chefnogi dysgwyr unigolion i fod yn wydn, annibynnol a datblygu sgiliau i gyflawni eu potensial. Rydym yn hynod falch i fedru dathlu i dîm yr arolwg gydnabod hyn fel llwyddiant mawr. Mae'n fraint arwain tîm cryf ac effeithlon o staff a gyda'n gilydd, i fedru gwneud gwahaniaeth real iawn i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol ym Mlaenau Gwent. Mae cyfleoedd y dyfodol yn gyffrous ac mae gennym ymrwymiad i welliant ysgol parhaus er budd ein dysgwyr arbennig iawn.”


Dywedodd y Pastor Wayne Evans, Cadeirydd Llywodraethwyr:

‘Mae'n bleser mawr gennyf ddathlu'r canlyniad gwych ar gyfer ysgol arbennig wirioneddol arbennig. Mae'n neilltuol o dda nodi y dyfarnwyd fod pob elfen ym mhob un o'r meysydd y bu'r tîm Arolygwyr yn craffu arnynt o leiaf yn dda ac yn llawer o achosion yn well! Roedd yn arolwg cadarnhaol tu hwnt gan Estyn ac mae'n dathlu'n briodol waith arweinwyr gwych yr ysgol, ein tîm staff deinamig ac ysbrydoledig, ein llywodraethwyr ymroddedig ac effeithlon ac yng nghanol popeth, ein dysgwyr gwych a'u teuluoedd. Rwy'n anhygoel o falch o bob un ohonynt! Edrychaf ymlaen at ddyfodol llwyddiannus a hapus ar gyfer yr ysgol ryfeddol yma .’’

Dywedodd y Cynghorydd Keren Bender, Aelod Gweithredol dros Addysg ar Gyngor Blaenau Gwent:
“Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch staff a disgyblion Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm am yr adroddiad arolwg rhagorol yma. Mae'r ysgol yn gweithio gyda rhai o'r plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed o Flaenau Gwent a'r cylch a gwn y bydd y tîm arweinyddiaeth a'r staff yn mynd yr ail filltir i deilwra addysg i bob un o'r disgyblion hyn a sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd a'r siawnsiau bywyd y mae ein holl ddisgyblion yn eu haeddu. Da iawn chi bawb.”

I ddarllen yr adroddiad arolwg ewch yn llawn i: https://www.estyn.gov.wales/sites/default/files/documents/Pen-Y-Cwm%20Special%20School.pdf