Yn ystod Wythnos Natur eleni cysylltwch â natur ar drothwy’r drws!

Dydd Sadwrn yma yw dechrau cyfres o ddigwyddiadau gardd a gweithgareddau natur y gallwch ymuno â hwy o’ch cartref i ddathlu Wythnos Natur Cymru

I ddechrau'r wythnos, ymunwch â ni am y BioBlitz Gerddi ar 30 Mai! Mae croeso i bawb i’r digwyddiad hwyliog hwn ac mae’n rhad ac am ddim. Y cwbl sydd angen ei wneud yw mynd allan o’r tŷ i sylwi ar natur yn eich gardd!

Er mwyn rhoi dechrau a hanner i’r wythnos, ymunwch â ni ar gyfer Bioblitz Mawr y Gerddi ar 30 Mai! Mae’n agored i bawb, yn hwyl ac yn rhad ac am ddim. Ewch allan i chwilio am natur yn eich gardd neu edrychwch allan dwy’r ffenestr! Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn rhannu eich straeon a’r hyn a welsoch yn eich gardd gyda’ch teulu a’ch ffrindiau – a pheidiwch ag anghofio eu rhannu gyda ni hefyd! Tagiwch bywyd gwyllt @WBP_a @LNPCymru er mwyn inni eu rhannu â’n partneriaid a’n holl ffrindiau hen a newydd ar Twitter.

Yn ystod yr wythnos, bydd Buglife ac arbenigwyr Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid wrth law i ateb cwestiynau yn ystod y digwyddiad peillwyr rhyngweithiol (1 Mehefin) a’r digwyddiad ‘Dreigiau Cymru’ (3 Mehefin). Bydd Barry Stewart, yr arbenigwr gwyfynod a’r cofnodwr sirol, yn datgelu canlyniadau noson o drapio gwyfynod byw o’i ardd yn ystod Wythnos Natur Cymru (2 Mehefin).

Ac i ddiweddu’r wythnos, ymgollwch mewn natur ac elwa ar ei gallu i iachau ar ddiwrnod Llesiant Natur ar 6 Mehefin ac yna ychydig o wylio adar o’ch cadair freichiau ar 7 Mehefin.

Gallwch weld rhestr o’r holl ddigwyddiadau yma

Mwy Twitter, Facebook and Instagram

Dilynwch ni – rydym ar @WBP_wildlife #WNC2020