Ymunwch a Gofalwyr Cymru ar gyfer ein Sioe Deithiol Ar-Lein gyfan Cymru

I ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 26 Tachwedd, mae Gofalwyr Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein. Bydd y digwyddiadau hun yn gyfle i glywed mwy am waith Gofalwyr Cymru, mewnbwn i'n gwaith a chael gafael ar wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu chi yn eich rôl ofalu.

Ar 25th Tachwedd, byddwn yn cynnal 3 digwyddiad union yr un fath, fel y gall cymaint o ofalwyr ymuno a ni a phosib.

  • Digwyddiad bore: 10yb tan 12yp
  • Digwyddiad prynhawn: 2yp tan 4yp
  • Digwyddiad gyda'r nos: 6yp tan 8yp

Croeso gan Claire Morgan, Cyfarwyddwr Carers Wales

Cadwch y Dyddiad

Dydd Iau 26 Tachwedd 2020 yw Diwrnod Hawliau Gofalwyr

Bydd Gwasanaeth Ymgysylltu Gofalwyr yn cynnal sesiwn galw heibio rithiol ar gyfer Gofalwyr di-dâl ym Mlaenau Gwent, thema Diwrnod Hawliau Gofalwyr eleni yw “Gwybod eich Hawliau”, os ydych yn gofalu am berthynas, cyfaill neu gymydog ac yr hoffech ofyn cwestiynau am eich hawliau fel gofalwr neu hyd yn oed ddim ond gael sgwrs, mae croeso i chi ymuno â ni.

Gallwch ymuno â ni o 11.30am ymlaen a byddwn yn defnyddio ap “Microsoft Teams” – anfonwch e-bost at naill ai Angela.james@blaenau-gwent.co.uk neu Verity.lewis@blaenau-gwent.co.uk cyn y diwrnod i gael y ddolen.

“Mae croeso i chi anfon yr wybodaeth ymlaen atynt os gwyddoch am rywun nad ydynt ar y cyfryngau cymdeithasol.”