Ymgyrch Oerwch eich Oergell

Cafodd ymgyrch 'Oerwch eich Oergell' ei chreu gan WRAP (Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau) i helpu hysbysu'r genedl am y tymheredd cywir i osod eu hoergell - sef dan 5˚C. Fel un o bartneriaid WRAP, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent hefyd yn helpu i hyrwyddo'r neges ar ei wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.Bydd yr ymgyrch dwy wythnos, sy'n rhedeg tan 4 Tachwedd, yn dangos i fyfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a theuluoedd ifanc 18-34 oed sut i gadw bwyd yn fwy ffres am gyfnod hirach mewn oergell ar y tymheredd cywir.

Ydych chi'n gwybod pa dymheredd ddylai eich oergell fod? Mae'r rhan fwyaf o rewgelloedd Prydain yn gweithredu ar 7˚C, ond er mwyn sicrhau y caiff bwyd ei gadw'n ddiogel a hefyd yn ffres mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn argymell tymheredd o 1 - 5˚C. I ddrysu pethau ymhellach, mae amrywiaeth enfawr o oergelloedd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd gyda dulliau rheoli'n amrywio rhwng brandiau a modelau. Felly i helpu datrys y broblem yma mae dyfais rad ac am ddim ar gael fel rhan o ymgyrch. Bydd gwefan Oerwch eich Oergell yn llywio defnyddwyr ar sut i sicrhau'r tymheredd cywir a gwneud y defnydd gorau o'u hoergell.

Yn ogystal â bod yn ddrud, mae gwastraff bwyd (amcangyfrifir fod teulu o bedwar yn taflu gwerth £70 o fwyd bob mis) ond mae hefyd yn cyfrannu at y nwyon niweidiol sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae Cyngor Blaenau Gwent yn casglu gwastraff bwyd yn wythnosol mewn cadi bwyd ar wahân ac mae'n bwysig nodi na ddylid rhoi unrhyw wastraff bwyd mewn casgliadau bag du, gan fod hyn yn ychwanegu at yr effaith tŷ gwydr.

Er enghraifft, mae llaeth yn drydydd ar y rhestr o gynnyrch bwyd a wastreffir fwyaf ym Mhrydain. Os yw eich oergell wedi ei gosod dan 5˚C bydd y llaeth ac eitemau bwyd eraill yn parhau hyd at dri diwrnod yn hirach. Mae hyn yn gwneud synnwyr gan y caiff cynifer â thair miliwn o laeth eu tywallt lawr y draen bob dydd, yn bennaf oherwydd na chafodd ei ddefnyddio mewn pryd.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn ymroddedig i fynd i'r afael â phroblem gwastraff bwyd. Bydd troi tymheredd eich oergell dan  5˚C yn cadw eich bwyd yn fwy ffres am hirach, arbed arian i deuluoedd a helpu gostwng gwastraff a anfonir i domen lanw. Mae'n bwysig gwybod fod pawb yn gwybod sut i wneud y defnydd gorau o'u hoergell, a rydym yn hapus i gefnogi ymgyrch 'Oerwch eich Oergell' wrth dynnu sylw at y mater hwn.