Ymgynghoriad SENCOM – gofyn am farn rhieni

Ceisio barn ar wasanaeth synhwyraidd a chyfathrebu yn Ne Ddwyrain Cymru


Gwahoddir rhieni yn Ne Ddwyrain Cymru i fynychu unrhyw un o nifer o gyfarfodydd sy’n cael eu cynnal i ganfod barn ar y ddarpariaeth o wasanaethau synhwyraidd a chyfathrebu yn y rhanbarth, fel rhan o adolygiad annibynnol.

Yn cael ei adnabod fel SENCOM, darperir y gwasanaeth yn rhanbarthol ar hyn o bryd ar draws Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. Mae’n cefnogi anghenion dysgu ychwanegol mewn meysydd arbenigol megis anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a namau ar y clyw, ar y golwg, ac aml-synhwyraidd. Mae tua 1500 o blant a phobl ifanc ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth gan SENCOM ar draws y pum awdurdod.

Ym mis Mai 2019, fe wnaeth yr awdurdodau sy’n ymwneud â SENCOM ofyn i CLlLC i gomisiynu arbenigwr annibynnol i adolygu ac adrodd ar y gwasanaeth i archwilio ffyrdd mwy cynaliadwy i ddarparu’r model rhanbarthol. Mae ymgynghorydd annibynnol, Mr Mark Geraghty, ers hynny wedi cychwyn ac ymgymryd â nifer o ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu fel rhan o’r adolygiad.

Dywedodd Mark Geraghty:

“Rhan bwysig o’r broses o gasglu tystiolaeth yw gwrando ar farn y plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n derbyn gwasanaeth gan un neu fwy o dimau SENCOM.

“Yn yr holl gyfarfodydd yr ydw i wedi eu mynychu hyd yma, ar draws pob lefel, mae’r angerdd a’r awch i sicrhau bod plant a phobl ifanc gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a namau ar y clyw ac ar y golwg yn derbyn cefnogaeth o safon ac adnoddau addas, wedi bod yn gwbl amlwg,

“Rwyf felly yn edrych ymlaen i groesawu rhieni i unrhyw un o’r cyfarfodydd sydd wedi cael eu trefnu i drafod eu profiadau nhw o SENCOM. Bydd y safbwyntiau yma yn hollbwysig i’r adolygiad er mwyn gallu sicrhau gwneud penderfyniadau wedi’i seilio ar dystiolaeth.”

Dyma ddyddiadau a lleoliadau’r cyfarfodydd ymgynghoriad:

12eg Tachwedd, 1.30pm a 6pm - Canolfan Casnewydd, NP20 1UH
14eg Tachwedd, 10am a 6pm - Stadiwm Cwmbran, NP44 3YS
15fed Tachwedd, 11am - Neuadd y Sir, Brynbuga, NP15 1GA
15fed Tachwedd, 6pm - Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, CF82 7PG
19eg Tachwedd, 9am - Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, CF82 7PG
19eg Tachwedd, 6pm - Neuadd y Sir, Brynbuga, NP15 1GA
21ain Tachwedd,10am a 6pm - Canolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy, NP23 6JG


Mae croeso i rhieni a rhanddeiliaid i ddarparu adborth trwy holiadur, sydd i’w ganfod ar y linc yma: www.smartsurvey.co.uk/s/SenCom