Ymgynghoriad Cyhoeddus – Datblygu safle Sipsiwn a Teithwyr newydd yn Cwmcrachen, Nantyglo

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer dymchwel y safle Sipsiwn a Teithwyr presennol a datblygu safle Sipsiwn a Teithwyr newydd ar gyfer 28 safle, blociau amwynder, swyddfa warden â’r gwaith cysylltiedig ar safle Sipsiwn a Teithwyr Cwmcrachen a tir oddi ar Ffordd Blaen-Nant, Nantyglo.

Yn nhermau cynllunio mae’r datblygiad arfaethedig yn ‘ddatblygiad mawr’, ac felly rhaid trefnu ymgynghoriad gyda’r gymuned lleol ac ymgynghorwyr stadudol cyn cyflwyno’r cais cynllunio yn ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Yn unol a’r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi comisiynu Asbri Planning Ltd i drefnu’r ymgynghoriad.

Mae modd i chi archwilio copïau o’r cais arfaethedig, y cynlluniau a dogfennau ategol eraill ar safle we Asbri Planning, gweler y ddolen gyswllt isod:
http://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/cwmcrachen-gypsy-site/

Er mwyn sicrhau ymgysylltiad llawn a’r gymuned lleol, mae’r Cyngor ac Asbri Planning yn trefnu digwyddiad ymgynghori â’r cyhoedd yng Nghlwb Rygbi Nantyglo rhwng 1.00pm a 7.30pm ar y 9fed Mai 2018. Fe wahoddir y cyhoedd i ddod i weld y cynlluniau a’r dogfennau cysylltiedig ac i drafod gyda’r tim cynllunio a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ac i gwblhau ffurflen ymateb. Fe ddanfonwyd 300 o lythyron at breswylwyr, busnesau, sefydliadau a’r cynghorwyr ger y safle arfaethedig yn esbonio y broses ymgynghori cyn gwneud cais ynghyd ar digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yng Nghlwb Rygbi Nantyglo.

Os na fedrwch fynychu yr ymgynghoriad cyhoeddus mae copi caled o’r dogfennau a’r gael yn  llyfrgell Brynmawr sydd ar agor rhwng:
 09:00-13:00 & 14:00 – 17:30 (dydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener) a
 09:30-13:00 ar ddydd Sadwrn.

Mae’r llyfrgell ar gau dydd Mercher a dydd Sul.

Gellir lawrlwytho y ffurflen ymateb o safle we Asbri Planning. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig ysgrifennu at yr asiant drwy ebostio  mail@asbriplanning.co.uk neu Asbri Planning Ltd, Uned 9 Oak Tree Court, Mulberry Drive, Cardiff Gate Business Park, Caerdydd, CF23 8RS erbyn 21 Mai 2018.

Mae CBC Blaenau Gwent ac Asbri Planning yn edrych ymlaen at glywed eich sylwadau.