Gyda mwy na 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, mae’r angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn fwyfwy dybryd.
Ar hyn o bryd mae 201 o blant mewn gofal maeth ym Mlaenau Gwent, a 40 o aelwydydd maethu.
Ym mis Ionawr lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, sef ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.
Ymunodd Maethu Cymru Blaenau Gwent â’r ymgyrch, ‘Gall pawb gynnig rhywbeth,’ i rannu profiadau realistig gan y gymuned faethu i ymateb i rwystrau cyffredin i ymholiadau.
Mae rhai o’r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu’n cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a’r ‘swigen gymorth’ sy’n bodoli o amgylch gofalwyr maeth, i ddarparu’r canlynol i ddarpar ofalwyr:
Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a’r ‘swigen gymorth’ sy’n bodoli o amgylch gofalwyr maeth, i ddarparu’r canlynol i ddarpar ofalwyr:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth am rôl gweithwyr cymdeithasol, a sut y gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
- Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy'n gweithio'n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.
- Cymhelliant i gychwyn y broses o ddod yn ofalwr maeth trwy Awdurdod Lleol.
Mewn arolwg cyhoeddus YouGov yn ddiweddar, dim ond 44% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu’n dda ac roedd bron i ddwy ran o bump (39%) o’r oedolion a holwyd yn teimlo bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol “yn aml wedi gwneud pethau’n anghywir.” Er mai dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy'n credu bod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu'n fawr.
“Nid yw gwaith cymdeithasol yn rôl y gallwch ei wneud heb fod ag angerdd amdano ac er y gall fod yn straen, mae hefyd yn rhoi llawer o foddhad. Dw i wir yn mwynhau gweithio gyda gofalwyr maeth a gweld pobl yn tyfu ar eu taith faethu.” – Sarah
Mae’r ymgyrch ddiweddaraf ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu i ddeall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Roedd 309 o ymatebwyr ac mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- Dywedodd 78% o weithwyr cymdeithasol yn yr arolwg eu bod wedi ymuno â'r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd
- Dywedodd 18% o ofalwyr maeth fod canfyddiadau negyddol o weithwyr cymdeithasol yn ganlyniad sylw Newyddion
- Dywedodd 29% o ofalwyr maeth cyn cyfarfod â gweithiwr cymdeithasol eu bod yn meddwl y byddent yn ‘bobl â llwythi achosion trwm a llawer o waith papur’
- Mae 27% o weithwyr cymdeithasol a arolygwyd yn credu bod darpar ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol
Mae Sarah Nixon yn weithiwr cymdeithasol Tîm Lleoli Blaenau Gwent ac wedi treulio bron i 3 blynedd yn y rôl. Myfyriodd ar yr hyn sy'n gwneud gofalwr maeth gwych, a sut mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn cefnogi gofalwyr maeth lleol.
“Dw i wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i gael gweithiwr cymdeithasol sy’n cymryd amser i arsylwi, a dod i adnabod eich teulu, a’r plant. Mae wedi fy helpu i gadw fy nhraed ar y ddaear a chadw ffocws. Mae fy holl blant a phobl ifanc yn gyfforddus iawn gyda nhw ac yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu cefnogi.” – Gofalwr Maeth Lleol
Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a hirhoedlog i gefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roeddent hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a’r cymorth a gewch, a thalwyd teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i:
Maethu ym Mlaenau Gwent | Maethu Cymru Blaenau Gwent (blaenau-gwent.gov.uk)