Gallwch gwrdd â Grace Page, Gweithiwr Cymdeithasol Blaenau Gwent a phenderfynu pam yr ymunodd â proffesiwn Gofal Cymdeithasol yma. Fideo Cymraeg
Mae Grace yn un o’r gweithwyr cymdeithasol newydd o fewn tîm y dwyrain ac yn 23 oed mae ymhlith yr ieuengaf yn y tîm gofal cymdeithasol. Gofynnwyd i Grace ymddangos yn hysbysebion teledu Gofalwn Cymru a lansiwyd ar ITV ar 10 Hydref.
Rhoddodd Grace hefyd gyfweliad manwl i Wales Online, am pam y dewisodd yrfa mewn Gwaith Cymdeithasol. Darllenwch yr erthygl lawn yma: https://www.walesonline.co.uk/special-features/rwyt-tin-poeni-dyna-pam-25481264.
Mae Gofalwn Cymru yn sefydliad sy’n hyrwyddo swyddi gofal yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn y sectorau Plant a Gofal Cymdeithasol Oedolion. Ewch i https://gofalwn.cymru/ am yr holl wybodaeth rydych ei hangen am weithio mewn gofal, yn cynnwys disgrifiadau swyddi unigol a straeon bywyd go iawn pobl sy’n gweithio yn y sector yn ogystal â chwilio a gwneud cais yn uniongyrchol drwy’r safle am swyddi.
Dywedodd y Cyng Haydn Trollope (Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol):
‘Rwy’n wirioneddol falch i weld fod gweithiwr cymdeithasol o Wasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn ymgyrch recriwtio gwaith cymdeithasol Gofalwn Cymru a’i bod wedi ymddangos ar hysbyseb teledu ar ITV yr wythnos hon. Mae Grace newydd gael swydd barhaol yn adran Gwasanaethau Oedolion Blaenau Gwent ac mae hyn yn glod i’n gwaith yn y fwrdeistref i feithrin a denu staff brwdfrydig a gofalgar i’n hawdurdod. Diolch Grace.’
Os oes gennych ddiddordeb mewn swydd o fewn sector Gofal blaenau Gwent ewch i Swyddi | CBS Blaenau Gwent (blaenau-gwent.gov.uk)