Y Little Dragon Pizza Van

Mae ymwelwyr newynog yn Rhos Llangynidr bob amser yn hoffi gweld The Little Dragon Pizza Van.

Lansiodd Peter Morris y bwyty symudol yn ei fan VW a gafodd ei thrawsnewid yn bwrpasol flwyddyn yn ôl, ac mae ganddo bellach ddilyniant cryf am ei pizzas blasus ffwrn goed.

Ac fe helpodd rhaglen Kickstart - a gaiff ei rhedeg ar cyd gyda UK Steel Enterprise sy'n is-gwmni i Tata Steel a Chyngor Blaenau Gwent - i Peter fynd ar y ffordd gyda grant amserol o £800.

Yn ogystal â'i safle rheolaidd ar y Rhos, gellir gweld The Little Dragon Pizza Van mewn digwyddiadau o amgylch gogledd Gwent a Sir Fynwy. Mae Peter yn un o drefnwyr Gŵyl Fwyd Stryd Brynmawr ac mae hefyd yn arlwyo mewn digwyddiadau arbennig.

Mae setiau ffilm yn lleoliad arall ar gyfer y fan - yn ddiweddar bu'n bwydo actorion ar set His Dark Materials yng ngogledd Gwent.

"Roedd yn ddefnyddiol iawn cael y gefnogaeth o raglen Kickstart", meddai.

Dywed ei fod yn awr yn edrych ar ehangu. "Y cam nesaf fydd yn bendant cael ffwrn a fan arall a mynd i mwy o briodasau a digwyddiadau eraill. Byddaf wedyn yn cyflogi rhywun i fy helpu."

Dywedodd Martin Palmer o UK Steel Enterprise: "Mae'n dda gweld y cafodd y busnes gychwyn rhagorol, ac y gall mwy o swyddi gael eu creu fel canlyniad.

"Y tro nesaf y byddaf yn ymweld â Rhos Llangynidr, byddaf yn sicr yn rhoi cynnig ar The Little Dragon Pizza Van!"

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio: "Rwyf mor falch i glywed am stori lwyddiant arall y mae rhaglen Kickstart wedi helpu ei gefnogi. Mae'r 'Little Dragon Pizza Fan' gyda'i pizzas Eidalaidd ffwrn goed dilys a chrefftus yn syniad mor flaengar y gallwn i gyd eu mwynhau. Gyda'i gallu i deithio i unrhyw leoliad, rwy'n sicr y bydd yn parhau i dyfu a hoffwn ddymuno llwyddiant parhaus iddo ar gyfer y dyfodol."