Y diweddaraf ar Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn cynnwys ysgol newydd i Six Bells ..

Mae'r cyllid yn ei le ar gyfer ysgol newydd ar hen safle glofa Six Bells; mae'r Cyngor wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac mae allan i dendr ar hyn o bryd i benodi contractwr ar gyfer y gwaith adeiladu. Bydd adeiladu'r ysgol, fydd yn golygu buddsoddiad o £6.9 miliwn yn y stad ysgolion yn Abertyleri, yn cymryd lle adeiladau ysgol Stryd y Frenhines a Bryngwyn sydd bellach yn hen ac yn dod â'r disgyblion ynghyd mewn cyfleusterau modern o'r radd flaenaf gydag ardaloedd chwaraeon awyr agored. Bydd yr ysgol newydd yn rhan o gampws o Gymuned Ddysgu Abertyleri a sefydlwyd yn ddiweddar.

Mae'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhaglen arweiniol a ariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor sy'n cefnogi gwelliannau i'r stad ysgolion. Dywedwyd wrth Bwyllgor Gwaith Cyngor Blaenau Gwent y gwnaed cynnydd sylweddol ar nifer o'r prosiectau allweddol ym Mand A, yn cwmpasu'r cyfnod 2014 i 2018, yn cynnwys:

  • Prosiect Ail-fodelu Ysgol Gyfun Tredegar - mae'r gwaith ail-fodelu helaeth i ysgol gyfun y dref bellach wedi'i orffen.
  • Prosiect Adeilad Newydd Ysgol Gynradd Abertyleri - mae disgyblion wedi setlo'n dda yn yr ysgol newydd sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri. Mae'r gwaith dymchwel wedi dechrau ar hen adeilad yr ysgol ac mae Uwch Reolwr Adeiladu Willmott Dixon yn gweithio gyda'r Gymdeithas Rhandiroedd i ddatblygu prosiect gwaddol yn ogystal â chynllunio ardaloedd chwarae i ddisgyblion cyfnod allweddol 2.
  • Prosiect Adeilad Newydd Ysgol Gynradd Six Bells – cafodd yr achos busnes llawn ar gyfer yr ysgol newydd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac mae gwaith yn parhau i sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y gwaith adeiladu a phenodi contractor. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg y gall gymryd mwy o amser na'r disgwyl i benodi contractwr, oherwydd fod cymaint o waith adeiladu ysgolion yn mynd rhagddo yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y gallai hynny gael effaith fechan ar ddyddiad agor yr adeilad ysgol newydd. Fodd bynnag mae'r Cyngor yn hollol ymroddedig i gyflawni'r ysgol newydd yn unol gyda'i flaenoriaethau 21ain Ganrif.
  • Prosiect Adeilad Newydd Ysgol Gyfun Gymraeg 2 – mae hyn yn mynd rhagddo yng Nghasnewydd, gan olygu y  caiff lleoedd eu rhyddhau ar gyfer plant Blaenau Gwent yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.
  • Prosiect Ailfodelu Ysgol Gynradd Ystruth - cymeradwyodd Llywodraeth Cymru yr achos cyfiawnhad busnes dros yr ail-fodelu yn ystod haf 2016.
  • Prosiect Ad-drefnu Ysgolion Cymuned Ddysgu Abertyleri - agorodd y Gymuned Ddysgu gyda dros 1,500 disgybl ar 1 Medi. Mae'r Cyngor wedi sefydlu grŵp Cynllun a Chefnogaeth fydd yn gweithio gydag arweinwyr y Gymuned Ddysgu ac yn cwrdd bob hanner tymor.

Dywedodd y Cynghorydd Keren Bender, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Cafodd rhaglen Llywodraeth Cymru ar Ysgolion yr 21ain Ganrif ei groesawu’n llawn yma ym Mlaenau Gwent. Rydym wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio'r cyllid i wella'r stad ysgolion yn Abertyleri lle'r ydym eisoes wedi adeiladu un ysgol gynradd newydd ac un arall ar y ffordd; yn ogystal â gwaith ailfodelu helaeth i ysgolion yn Nhredegar a Blaenau. Mae'r adeilad cynradd newydd yn Stryd Tyleri yn enghraifft wych o'r math o amgylchedd dysgu modern ac egnïol y mae plant a phobl ifanc yn ei haeddu ac edrychwn ymlaen yn awr at ddarparu'r un cyfleusterau ar gyfer disgyblion Six Bells.

"Gyda Chymuned Dysgu Abertyleri wedi agor y mis hwn a'r Campws Uwchradd yn cael ei ganlyniadau TGAU gorau erioed, mae'r dyfodol yn bendant yn edrych yn ddisglair ar gyfer addysg plant a phobl ifanc yn Abertyleri."