Y Dirprwy Weinidog yn agor The Tredegar Arms a Chanolfan Gymunedol Star yn swyddogol

Mae The Tredegar Arms wedi ei adnewyddu'n helaeth. Mae'r adeilad yn gweithredu fel gwesty moethus yn ogystal â darparu cyfleusterau bwyty ac ystafell digwyddiadau. Mae'r adeilad yn rhan allweddol o dirlun hanesyddol adeiladau yn Nhredegar a adeiladwyd yn deillio o dwf y dref o'r diwydiant haearn.
Adeiladwyd Canolfan Gymunedol Star ar hen safle Ysgol Iau Sirhywi ac mae'n gyfleuster cymunedol modern sy'n darparu cyfleusterau cymorth swydd a hyfforddiant. Cafodd ei ddatblygu mewn cysylltiad gyda Chymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Sirhywi.
Aeth y Gweinidog ar daith o amgylch y cyfleusterau a chafodd ei chyflwyno i aelodau Canolfan Gymunedol Star a pherchnogion The Tredegar Arms.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

"Mae Cyngor Blaenau Gwent yn hynod falch fod dau gyfleuster arall yn awr ar agor i'r gymuned a'r rhai sy'n ymweld â'r ardal.
"Mae adnewyddu The Tredegar Arms yn rhan o'r ardal gadwraeth lle mae adeiladau eraill megis hen Neuadd y Dref, sydd â Rhestriad Gradd 10 a Rhif 10 Y Cylch, man geni'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, hefyd yn cael eu hadnewyddu fel rhan o Gynllun Tirlun Treftadaeth Tredegar. Mae cadwraeth ein treftadaeth unigryw yn bwysig i'r gymuned leol a'n hanes.
"Bydd Canolfan Gymunedol Star yn darparu cyfleusterau ychwanegol ar gyfer yr ardal ac yn cefnogi datblygiad economaidd y Fwrdeistref drwy hyfforddiant a datblygu sgiliau.
"Mae'r ddau gyfleuster yn cefnogi trawsnewid yr ardal a gwneud gwahaniaeth i fywyd lleol. Dymunaf bob llwyddiant iddynt."

Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

"Mae cefnogi canol trefi yn gonglfaen bwysig yn ein gweithgareddau adfywio a rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn yr ardal drwy amrywiaeth o gynlluniau.
"Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi medru cyfrannu bron £600,000 o gyllid Adfywio tuag at Ganolfan Gymunedol Star a'r Tredegar Arms dan y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
"Bydd y buddsoddiad yng Nghanolfan Star yn helpu i wella mynediad i gyfleuster cymunedol pwysig fydd yn dod â phobl ynghyd i helpu mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, cefnogi swyddi a darparu cyfleoedd hyfforddiant.
"Mae prosiectau tebyg i hwn, a gyflwynir drwy'r Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfywio a mynd i'r afael â thlodi ym Mlaenau Gwent.
"Rydym eisiau cefnogi busnesau lleol, tyfu ein canol trefi gwych - a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu cyfleoedd swyddi a denu mwy o bobl i dref, gan gynyddu nifer y bobl sy'n dod yma - ac edrychaf ymlaen at ei weld yn ffynnu a thyfu."

Cyllidwyd The Tredegar Arms gan nifer o bartneriaid yn cynnwys y perchnogion, cyfraniadau grant Cynllun Trirlun Treftadaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Rhaglen Trechu Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Benthyciad Canol Tref, cyllid preifat a Grant Twristiaeth Cronfa Busnesau Micro a Bach Lywodraeth Cymru.

Cymuned Star

Cyllidwyd y cyfleuster yn defnyddio'r cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a ddyrannwyd i Dredegar.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys £245,000 o gyllid Adfywio tuag at Ganolfan Gymunedol Star a £348,000 tuag at The Tredegar Arms dan y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.