Y Cyngor yn galw am breswylwyr i gymryd rhan mewn prosiect bywyd gwyllt trefol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ynghyd â sefydliadau partner, yn arwain prosiect newydd 'Bywyd Gwyllt ein Bro'. Nod y prosiect yw ymgysylltu a gweithio gyda phreswylwyr o bob rhan o Flaenau Gwent a Thorfaen i ddarganfod yr amrywiaeth o fywyd gwyllt a all fod yn byw mewn gerddi a mannau gwyrdd o'u cwmpas. Nod y prosiect yw cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr a bywyd gwyllt lleol. Mae ymwneud â bioamrywiaeth a natur yn cyfrannu at ein llesiant ac yn rhoi ymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol i ni.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar fywyd gwyllt sydd mewn ardaloedd trefol, draenogiaid, adar, peillwyr a phlanhigion. Y nod yw annog cyfranogiad cymunedol a dysgu gweithredoedd cadarnhaol. Er enghraifft, gellir rhoi cyngor ar dechnegau garddio cyfeillgar i fywyd gwyllt, gellir gwneud gerddi yn gyfeillgar i ddraenogiaid drwy greu 'priffyrdd draenogiaid' a gall cymunedau gynnal prosiectau gwyddor dinasyddion megis Cyfrif Pili Pala.

Mae bioamrywiaeth yng Nghymru yn gostwng. Mae llai o fywyd gwyllt ers 1970 a 30% mewn llai o leoedd. Mae nifer draenogiaid ym Mhrydain yn gostwng, a chollwyd traean draenogiaid ers y flwyddyn 2000. Mae arbenigwyr yn credu fod nifer o ffactorau gwahanol yn cyfrannu at y dirywiad dramatig megis colli cynefinoedd a newidiadau mewn defnydd tir, er enghraifft mae gerddi yn dod yn fwy o jyngls concrit gyda ffiniau na fedrir mynd drwyddynt. Drwy gymryd rhan yn y prosiect hwn gallwch helpu'r draenogiaid yn eich ardal, a hyd yn oed dod yn hyrwyddwr draenogiaid!

Dywedodd John Hiller, sy'n byw lleol ac yn aelod o grŵp cymunedol "Mae Cymdeithas Cadwraeth Llynnoedd a Choetiroedd Rhiw Beaufort yn edrych ymlaen at bod yn rhan o'r prosiect. Os ydym yn mynd i wella a gwarchod ansawdd yr amgylchedd yna mae'n bwysig fod yr holl gymuned yn cymryd rhan."
Caiff y prosiect ei gyllido drwy Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru drwy raglen gwaith 'Gwent Fwyaf Gydnerth'. Mae'r rhaglen yn parhau tan haf 2022 ac mae'n gweithio i sicrhau De Ddwyrain Cymru lle mae adferiad mewn natur a chymunedau cynaliadwy yn gwerthfawrogi eu tirluniau a bywyd gwyllt ac yn cymryd rhan ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

I gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn cysylltwch â Nadine Morgan, Swyddog Bioamrywiaeth: Nadine.morgan@blaenau-gwent.gov.uk neu 01495 356070.