Y Cyngor yn cymeradwyo oriau agor ar gyfer ail Ganolfan HWRC arfaethedig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ddiweddar wedi cymeradwyo oriau agor ar gyfer yr ail Ganolfan Gwastraff ac Ailgychu Cartrefi (HWRC) arfaethedig yn Roseheyworth.

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r Cyngor ddydd Iau 19 Rhagfyr lle cymeradwyodd y Cyngor Opsiwn Dau adroddiad HWRC:
http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/documents/s4423/SCO1912D1%20HWRC%20Revenue%20implications.pdf?LLL=0

Mae'r opsiwn yn cynnig bod HWRC Roseheyworth a New Vale ill dwy'n gweithredu chwe diwrnod yr wythnos. Os yw un safle ar gau bydd y safle arall ar agor gan olygu y byddai gan y cyhoedd fynediad i o leiaf un safle dros gyfnod o saith diwrnod.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:

“Mae hyn yn newyddion gwych i breswylwyr Blaenau Gwent. Bydd y safle newydd yn rhoi dewis i'r cyhoedd yn ychwanegol at y safle presennol yng Nglynebwy. Mae'n cefnogi blaenoriaethau'r Cyngor i gynyddu cyfraddau a'n galluogi i gyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol.

“Bydd y safle newydd yn Roseheyworth yn rhoi cyfleusterau modern a hygyrch i'w gwneud yn haws iddynt ailgylchu mwy o'u gwastraff cartref. Mae'r buddsoddiad yn rhan o'n strategaeth gwastraff ac yn un o nifer o fesurau hirdymor y Cyngor i gyraedd targedau ailgylchu cynyddol Llywodraeth Cymru.

"Bydd y safle newydd yn cynnwys cyfleuster ailddefnyddio celfi lle gall preswylwyr gyfrannu eitemau sydd mewn cyflwr da. Fel rhan o'r gwelliannau newydd yn gysylltiedig gyda'r datblygiad newydd, caiff cyfleuster arwyddion traffig newydd ei ddarparu yng nghyffordd A467 / Roseheyworth."

Dywedodd Joanna Wilkins, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol:

“Rydym yn falch iawn y cafodd yr oriau gweithredu eu cymeradwyo. Mae ailgylchu yn bwysig i bawb. Mae cost sylweddol i'r Cyngor o beidio ailgylchu a medrir osgoi hynny'n llwyr gan ein helpu i ostwng costau gwaredu diangen. Pan nad yw pobl yn ailgylchu, rydym yn gorfod talu mwy nag sydd angen i ni gael gwared â'r sbwriel a gaiff ei roi mewn bagiau du. Mae hyn yn arian y gellid bod wedi ei wario yn darparu neu wella gwasanaethau i'r gymuned, tebyg i ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.”

Mae safle presennol HWRC ar Stad Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy:
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/your-local-recycling-centre/