Y Cyngor yn cefnogi pobl gyda'r Credyd Cynhwysol ...

Mae'r Credyd Cynhwysol yn un taliad misol cyfunol ar gyfer y budd-daliadau dilynol: Cymhorthdal Incwm; Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth; Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant a Budd-daliadau Tai.

Bydd y rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol wedyn yn gyfrifol am dalu eu costau tai eu hunain. Bydd angen hawlio ar wahân ar gyfer cymorth gyda'r Dreth Gyngor a phrydau ysgol am ddim.

Caiff ei ymestyn ym Mlaenau Gwent ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2018.

Fel rhan o'r cynllun ymestyn, dim ond i hawlwyr NEWYDD y budd-daliadau perthnasol y caiff Credyd Cynhwysol ei dalu, gyda'r nod o hefyd symud yr holl hawlwyr presennol i'r Credyd Cynhwysol erbyn 2022. Caiff hawlwyr presennol hefyd eu symud i'r Credyd Cynhwysol os oes ganddynt newid perthnasol mewn amgylchiadau.

O 18 Gorffennaf ymlaen bydd angen gwneud pob hawliad newydd am Credyd Cynhwysol ar-lein. Dyma ble gall y Cyngor helpu. Bydd cynghorwyr budd-daliadau ar gael i roi cefnogaeth i hawlwyr drwy eu helpu i gael mynediad i ffurflenni ar-lein a'u llenwi os na allant wneud hynny eu hunain. Bydd y cynghorwyr hefyd yn gallu helpu gyda sgiliau trefnu arian personol a rhoi help a chyngor ar unrhyw gefnogaeth ariannol ychwanegol a all fod ei angen megis cymorth gyda chostau tai, talebau banc bwyd neu ychwanegiad tanwydd.

Mae Cyflenwi Credyd Cynhwysol yn bartneriaeth rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a chynghorau lleol. Bydd y DWP yn dynodi hyfforddydd gwaith penodol i hawlwyr ar hyd oes yr hawliad fydd wedyn yn eu helpu i gael mynediad i gyflogaeth a hyfforddiant gyda golwg ar ddychwelyd i weithio.

Dywedodd y Cyng Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae'r Credyd Cynhwysol yn newid i'r system budd-daliadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ei nod yw hyrwyddo cyfrifoldeb personol ymysg hawlwyr i drin eu materion ariannol a mynd ati i chwilio am gyflogaeth.

"Deallwn y gall hyn fod yn amser pryderus i rai o'n preswylwyr, yn arbennig gan y gwelwn fod hawlwyr mewn ardaloedd eraill wedi cael rhai problemau gyda'r system newydd. Gyda hynny dan sylw buom yn brysur yn paratoi ar gyfer y newidiadau ers tro er mwyn lleihau unrhyw effaith ar ein preswylwyr. Byddwn yn mynd ati i'w cefnogi drwy'r newidiadau hyn, p'un ai yw hynny'n help gyda chadw trefn ar arian eu cartref drwy gyfnodau anodd neu hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd er mwyn gwneud hawliad cyntaf."

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Credyd Cynhwysol a sut y gall effeithio arnoch cliciwch
yma; neu os na chafodd eich cwestiwn ei ateb yma ffoniwch 01495 353398 neu anfon e-bost at benefits@blaenau-gwent.gov.uk