Y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth Hamdden yn gweithio i ail-agor canolfannau chwaraeon yn ddiogel

Yn dilyn diweddariad Llywodraeth Cymru ar ail-agor cyfleusterau hamdden dan-do mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, sy’n rheoli canolfannau chwaraeon ar ran Cyngor Blaenau Gwent, yn gweithio i wneud yr holl gyfleusterau mor ddiogel ag sydd modd ar gyfer cwsmeriaid a staff.

Bydd y canolfannau yn ail-agor mewn camau a bydd mwy o fanylion ar gael yn y dyddiau nesaf.

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

"Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cyhoeddiad hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein haelodau yn ôl yn y canolfannau yn fuan. Mae chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn sylfaenol i lesiant y gymuned a’n blaenoriaeth yw sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaethau hyn i helpu gwella bywyd cymunedau, gan sicrhau eu bod mor ddiogel ag sydd modd ar gyfer aelodau."

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Mae iechyd a llesiant cymunedau lleol yn bwysig i ni a gwyddom fod pobl yn awyddus i ddychwelyd i’w gweithgareddau ffitrwydd a chwaraeon, felly rydym yn croesawu’r newyddion hwn yn fawr. Byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i’w cefnogi gyda’u cynlluniau ar gyfer ail-agor canolfannau chwaraeon yn ddiogel ledled Blaenau Gwent.”

Gan ragweld ymholiadau gan gwsmeriaid, bydd aelodau tîm yn bresennol mewn canolfannau chwaraeon i ateb ymholiadau ffôn yn ystod yr amserau dilynol:

• Canolfan Chwaraeon Glynebwy: Dydd Llun – Dydd Gwener, 9am i 3.30pm
• Canolfan Chwaraeon Abertyleri: Dydd Llun – Dydd Gwener, 9am i 3.30pm
• Canolfan Chwaraeon Tredegar: Dydd Llun – Dydd Gwener, 9.30am i 12 canol-dydd