Y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth Hamdden partneriaeth

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn adnewyddu ac yn cryfhau ei bartneriaeth waith gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i barhau i ddarparu cyfleusterau chwaraeon a diwylliannol ar gyfer pobl y fwrdeistref sirol.

Bydd y sefydliadau yn cydweithio, wedi’u cefnogi gan Cynllun Busnes cadarn, i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel, cynaliadwy ac arloesol fydd yn cefnogi Strategaeth Hamdden a Diwylliant 10-mlynedd y Cyngor. Bydd Bwrdd Partneriaeth Strategol newydd, yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol o’r ddau sefydliad, yn cydweithio’n agos i oruchwylio cynnal a thwf y sector hamdden a diwylliant yn yr ardal yn y dyfodol.

Mae hyn yn golygu y bydd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn parhau i reoli’r dilynol:
• Canolfannau chwaraeon Abertyleri, Glynebwy a Thredegar
• Parc Bryn Bach, Tredegar
• Tŷ a Pharc Bedwellte, Tredegar
• Canolfannau Addysg Oedolion
• Llyfrgelloedd

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Rwy’n hynod falch fod y Cyngor Llawn wedi cefnogi’r symudiad i adnewyddu a chryfhau ein perthynas gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin fel y gallwn barhau i gydweithio i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ac ansawdd uchel i bobl Blaenau Gwent. Gyda chymeradwyaeth y Strategaeth Hamdden a Diwylliant newydd, ystyriwyd mai dyma’r amser iawn i edrych ar ddarpariaeth y gwasanaethau hyn ar gyfer y dyfodol a chynhaliwyd adolygiad pellgyrhaeddol yn cynnwys aelodau etholedig ac arbenigwyr y diwydiant. Y casgliad o hyn oedd mai’r opsiwn a ffafrir oedd parhau i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth, sydd â phrofiad amlwg o gynnal gwasanaethau hamdden yn yr ardal ac oedd wedi datblygu Cynllun Busnes 10-mlynedd cadarn.

Mae’r penderfyniad yn rhoi sicrwydd am ddyfodol gwasanaethau hamdden a diwylliant yn y fwrdeistref ac yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i nodau llesiant ein partneriaeth o alluogi pobl i ddewis ffordd o fyw iach i wella eu llesiant. Bydd y penderfyniad hefyd yn helpu i ddiogelu llawer o swyddi lleol, sydd yn newyddion a groesewir yn fawr yn yr hinsawdd ansicr presennol.

Sylweddolwn bwysigrwydd parhau i ddarparu gwasanaethau hamdden da yn arbennig wrth i ni anelu tyfu ein heconomi a chynnig cyflogaeth a thai newydd yn yr ardal.”

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

"Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym edrych ymlaen yn fawr at barhau gwaith Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ar draws Blaenau Gwent. Rydym yn ymroddedig i gyflwyno ein Cynllun Busnes 10-mlynedd sydd â’r brif nod o wella bywyd y gymuned. Bydd ein meysydd gwahanol o arbenigedd mewn Hamdden, Diwylliant ac Addysg yn gwasanaethu’r gymuned yn yr hirdymor ac yn sicrhau cyfleoedd swyddi ar gyfer pobl leol."

Cafodd y contract rhwng y Cyngor ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ei gytuno am bum mlynedd – gydag adolygiad cynnydd i’w gynnal ar ôl tair blynedd.

I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

• Gwefan: http://www.aneurinleisure.org.uk
• Twitter: http://www.twitter.com/@Aneurinleisure
• Facebook: http://www.facebook.com/AneurinLeisure
• Instagram: https://www.instagram.com/aneurinleisure/