Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia 14 i 20 Mai 2017

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi Cymdeithas Alzheimer drwy'r Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia, 14-20 Mai i uno yn erbyn dementia. Mae'n debygol mai Dementia fydd prif achos marwolaeth yn y 21ain ganrif. Ond mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn parhau'n isel a llawer o deuluoedd yn ei wynebu ar ei ben ei hunain. Dyna pam, yn ystod yr Wythnos, ein bod eisiau cefnogi Cymdeithas Alzheimer i weithredu. Drwy uno, gallwn godi ymwybyddiaeth, cynnig help a dealltwriaeth i wella gofal.

Rydym yn byw mewn poblogaeth sy'n heneiddio a bydd hyn yn rhoi cyfleoedd a heriau newydd. Roedd 24 o bobl wedi byw i gyrraedd 100 oed yn 1917 a chynyddodd hyn i 4600 yn 2003, ond rhagwelir y bydd nifer y bobl fydd yn cyrraedd y cant yn cynyddu i 40,000 erbyn 2031. Mae dementia yn bryder sylweddol gyda 1 mewn 14 o bobl dros 65 oed yn byw gyda dementia; fodd bynnag bydd hefyd yn cael effaith fawr ar berthnasau sy'n cymryd rôl gofalu am eu hanwyliaid. Bydd yn cyffwrdd â phob aelod o gymdeithas ar ryw bwynt - os nad y teulu agosaf, yn deulu estynedig neu ffrindiau.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi dyfarnu logo Cymuned Cyfeillgar i Dementia i Gyngor Blaenau Gwent. Mae'r dyfarniad yn cydnabod y camau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o dementia ymysg staff a chynlluniau gweithredu'r cyngor yn y dyfodol yn cynnwys gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Fel rhan o'r dyfarniad, mae staff yn dod yn Gyfeillion Dementia sy'n sesiwn ymwybyddiaeth 45 munud yn amlygu'r 5 neges allweddol y dylai pawb eu gwybod am dementia a sut beth yw bywyd ar gyfer person sy'n byw gyda dementia. Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymuno â phartneriaid eraill fel Heddlu Gwent, Cymdeithasau Tai, busnesau lleol a phartneriaid sector gwirfoddol i gynyddu nifer cyfeillion dementia, gyda dros 12,000 o bobl yn cymryd rhan ar draws y rhanbarth dros y 2 flynedd ddiwethaf.

I helpu cynyddu nifer y staff yn y cyngor sy'n cymryd rhan, cafodd cyfres o ffilmiau byr a gynlluniwyd gan Gymdeithas Alzheimer eu hychwanegu at wefan gorfforaethol y cyngor, fel y bydd yr holl staff beth bynnag eu swydd yn cael peth ymwybyddiaeth. Hefyd bydd angen i aelodau newydd o staff edrych ar y ffilmiau fel rhan o'u hymsefydlu yn y dyfodol.

Bydd angen i Gwasanaethau Cyhoeddus fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol ac mae Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi Cymunedau Cyfeillgar i Dementia drwy godi ymwybyddiaeth o dementia ymysg staff a hefyd gyfrannu at egwyddorion allweddol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hyn yn enghraifft o 'Ddeddfau ar Waith" a bydd hefyd yn cefnogi Strategaeth Dementia a Chynllun Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Phil Diamond phil.diamond@torfaen.gov.uk