Wythnos Mabwysiadau Cenedlaethol: #MabwysiaduDanSylw

Ymunwch ag Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu y 12 – 18 Hydref hwn trwy wrando ar bodlediad mabwysiadu cyntaf erioed Cymru, Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu. Neu cofrestrwch ar gyfer gweminar dros ginio i glywed straeon ac awgrymiadau gonest
gan fabwysiadwyr a gweithwyr mabwysiadu ledled Cymru.

Nod Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu, podlediad gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw bod yn adnodd addysgiadol sy’n cynnwys grŵp o fabwysiadwyr yn trafod eu profiadau a rennir gyda’i gilydd.

Mae Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n cynnwys 10 mabwysiadwr o bob rhan o Gymru yn trafod pwnc mabwysiadu gwahanol bob wythnos — o’r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu. Mae straeon yn amrywio o fabwysiadwyr o’r un rhyw a mabwysiadwyr sengl i fabwysiadwyr hŷn a mabwysiadwyr brodyr a chwiorydd.

Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y cyfarfod ond o fewn eiliadau mae fel gwrando ar hen ffrindiau’n siarad. Maen nhw’n chwerthin gyda’i gilydd, maen nhw’n crio gyda’i gilydd.

Mae Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu yn amhrisiadwy p’un a ydych chi eisoes wedi mabwysiadu, yn edrych i ddechrau’r broses neu ddim ond diddordeb mewn gwahanol ffyrdd o gychwyn teulu.

Gwrandewch ar y podlediad yma:

adoptcymru.com/podlediad
Cofrestrwch ar gyfer gweminar dros ginio i glywed straeon ac awgrymiadau mwy gonest gan fabwysiadwyr a gweithwyr mabwysiadu ledled Cymru
https://bit.ly/3d2L2o5.

Dydd Mercher 14 Hydref:
Gweminar: Cyfarfod â’r mabwysiadwyr
Cyfle i gwrdd â rhai o’r teuluoedd o’r podlediad ‘Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu’
12.30yp – Gweminar Saesneg
Cofrestrwch yma: https://bit.ly/2GHeGD4
13.00yp – Gweminar Cymraeg
Cofrestrwch yma: https://bit.ly/2F519VH

Dydd Iau 15 Hydref:
Gweminar: Teuluoedd Balchder — Cefnogi’r gymuned LGBT + trwy fabwysiadu
Mewn partneriaeth â Pride Cymru, dewch i gwrdd ag aelodau o’r gymuned LGBT + sydd wedi cael eu paru’n llwyddiannus trwy’r broses fabwysiadu.
12.30yp — Yn y Saesneg gydag Iaith Arwyddion
Gwyliwch yma: https://bit.ly/36E6DCe

Dydd Gwener 16 Hydref:
Gweminar: Mabwysiadu’r Iaith Gymraeg — Adopting the Welsh language
Archwilio’r broses fabwysiadu yng Nghymru, y rôl y mae iaith yn ei chwarae mewn teuluoedd, a chyfeirio at adnoddau mabwysiadu a chefnogaeth sydd ar gael yn Gymraeg.
12.30yp – yn y Gymraeg gydag Iaith Arwyddion
Cofrestrwch yma: https://bit.ly/3d0rwZt