Wythnos Gofalwyr Blaenau Gwent 2017

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn gwerthfawrogi rôl bwysig gofalwyr anffurfiol yn ein hardal ac rydym eisiau rhoi cymaint o gefnogaeth i chi ag sydd modd. I ddangos ein gwerthfawrogiad, rydym wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau ar draws y fwrdeisdref ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2017.

Dydd Llun 12 Mehefin 2017
9.30am - 11.30am Stondinau Gwybodaeth ar gyfer Staff yn Llys Einion, Abertyleri
2.00pm - 4.00pm Stondinau Gwybodaeth ar gyfer Staff yn y Ganolfan Ddinesig, Glynewy

Dydd Mawrth 13 Mehefin 2017
9.30am - 12.00pm Ysbyty YAB (Derbynfa) Glynebwy - Stondin Wybodaeth

Dydd Mercher 14 Mehefin 2017
10.30am - 12.30pm Bedwellty House – Tŷ Bedwellte - Te a Bwffe Un ar Ddeg gydag adloniant ysgafn gan Lyndon Jones, Canwr a Chwaraewr Bysellfwrdd - Raffl Arwerthiant Tsieineaidd (drwy wahoddiad yn unig oherwydd nifer gyfyngedig lleoedd)

Dydd Iau 15 Mehefin 2017
9.30am - 11.30am Canolfan Iechyd Tredegar - Stondin Wybodaeth
12.30am - 2.30pm Asda Brynmawr - Stondin Wybodaeth

Dydd Gwener 16 Mehefin 2017
9.30am - 11.30am Meddygfa Glanrhyd, Glanyrafon, Glynebwy - Stondin Wybodaeth
12.00pm - 2.00pm Meddygfa Glyn Ebwy, Stryd James, Glynebwy - Stondin Wybodaeth


Wythnos Gofalwyr 12-18 Mehefin 2017

Mae'r Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol i ddathlu a chydnabod cyfraniad hanfodol y 6.5 miliwn o ofalwyr sydd yn y Deyrnas Unedig.

Mae Wythnos Gofalwyr eleni yn canolbwyntio ar adeiladu cymunedau sy'n cefnogi gofalwyr i ofalu'n dda am eu hanwyliaid, tra'n cydnabod eu bod yn unigolion gyda'u hanghenion eu hunain.

Daw'r Wythnos Gofalwyr yn fyw gyda chefnogaeth unigolion, grwpiau a sefydliadau sy'n cynnal digwyddiadau ac yn cymryd camau gweithredu cadarnhaol tuag at ofalwyr.

I ddathlu, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi uno eleni gyda Chymdeithas Alzheimer, Age Cymru - Gwent, GAVO, Cefnogaeth Canser Macmillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyflwyno llu o sesiynau gwybodaeth ym mhob rhan o'r fwrdeisdref. Fe'ch gwahoddwn i ddod draw am sgwrs gyfrinachol am ddim, rhannu straeon yn ogystal â chael taflenni gwybodaeth defnyddiol am ba gefnogaeth sydd ar gael i chi yn eich rôl gofalu.

Yn ogystal â'r sesiynau gwybodaeth am ddim a gynhelir drwy gydol yr wythnos, trefnwyd digwyddiad bore hefyd ar gyfer dydd Mercher 14 Mehefin yn harddwch Tŷ Bedwellte, Parc Bedwellte, Tredegar fydd yn rhoi cyfle i ofalwyr ymlacio, hamddena a mwynhau gwrando ar ganwr a chwaraewr bysellfwrdd gwadd. Bydd coffi/te a bwffe hefyd ar gael gyda chyfle i gymryd rhan mewn Arwerthiant Tsieineaidd/Raffl gyda llawer o wobrau gwych. (Drwy wahoddiad yn unig)

Dywedodd  Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithrediaeth Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Nid ydym byth yn anghofio pa mor bwysig ydych chi fel gofalwyr! Rydym yn gwerthfawrogi rôl hanfodol gofalwyr yn darparu iechyd a hapusrwydd i'r rhai sydd angen gofal. Rydym ni fel cyngor yn canmol 'arwyr tawel' ein cymunedau a byddwn yn parhau i ddangos ein cefnogaeth lle bynnag y gallwn."