Wythnos Diogelu Cenedlaethol 14eg – 18fed Tachwedd, 2016

Yn ystod yr wythnos hon, bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal er mwyn cydnabod Wythnos Diogelu Cenedlaethol yng Nghymru.

Yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru, bydd Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent Eang (BDOGE) ar y cyd รข'r Bwrdd Diogelu Plant a Thrais yn Erbyn Menywod, a Phartneriaeth Strategol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu nifer o weithgareddau drwy gydol yr wythnos.

  • lansiad clip cyfryngau BDOGE i godi ymwybyddiaeth o gam-drin oedolion
  • lansiad cyfres o wybodaeth i ysgolion i godi ymwybyddiaeth am Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant ar gyfer pobl ifanc
  • Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig
  • Cynhyrchiad drama a ariennir ar y cyd ar gyfer pobl ifanc ar draws y rhanbarth i godi ymwybyddiaeth am ystod o bryderon diogelu ar gyfer pobl ifanc 
  • Hyfforddiant Cam-drin Domestig, Stelcian ac Aflonyddu (CDSA) a Chynhadledd Asesu Risg Aml-Asiantaeth (CARAA)
  • Cynhadledd Diogelu Rhanbarthol ar gyfer proffesiynwyr a gwirfoddolwyr

Yn cysylltu ag Wythnos Gwrthfwlio a'r prosiect bod " Busnes Pawb yw Bwlio", ceir gwybodaeth o SchoolBeat a Meic/ProMo-Cymru drwy ddilyn y cyfeiriadau isod:

@meiccymru

@schoolbeat

Meic Facebook

SchoolBeat Facebook