Wythnos Ailgylchu: Dyma’r flwyddyn y bydd pobl Blaenau Gwent yn ‘cydio yn eu cyfrifoldeb i ailgylchu’!

Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru’n chwarae eu rhan mewn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae Cymru’n arwain y gad gydag ailgylchu. Ni yw’r ailgylchwyr gorau yn y Deyrnas Unedig a’r drydedd wlad orau yn y byd, gydag uchelgais i fod y gorau un.


Ar gyfer yr 17eg Wythnos Ailgylchu flynyddol (23ain – 29ain Medi), mae Ailgylchu dros Gymru’n gweithio gyda phartneriaid yn cynnwys Blaenau Gwent  i fanteisio ar yr holl ymwybyddiaeth ac egni yma yn Blaenau Gwent; yn rhoi’r dasg i breswylwyr – a phobl ar hyd a lled Cymru – weithredu a chanolbwyntio ar ailgylchu’n iawn yn ystod Wythnos Ailgylchu.

Ailgylchu – gwneud pethau’n iawn
Mae’r ymchwil ddiweddaraf gan Ailgylchu dros Gymru’n datgelu bod aelwydydd Cymru’n ailgylchu mwy nag erioed o’r blaen, gyda thros 90% o bobl nawr yn ailgylchu deunyddiau fel poteli diodydd plastig, poteli nwyddau ymolchi a siampŵ, a gwastraff bwyd.


Mae mwy na hanner aelwydydd Cymru’n ailgylchu mwy nag oedden nhw flwyddyn yn ôl, ac fe ddywedodd chwarter o’r bobl hyn mai pryderon amgylcheddol yw’r prif reswm dros wneud mwy ac eraill yn priodoli eu hymdrechion i ymwybyddiaeth gynyddol am yr hyn y gellir ei ailgylchu.


Dangosodd yr ymchwil hefyd mai pobl ifanc sy’n arwain y gad, gydag 82% o bobl 18–24 mlwydd oed yn ailgylchu mwy nag yn 2018.


Er bod yr ymchwil wedi dangos cynnydd mewn ailgylchu, datgelodd hefyd fod 50% o bobl yn dal i roi o leiaf un eitem y gellid bod wedi’i ailgylchu yn y bin sbwriel cyffredinol.


Yn ystod Wythnos Ailgylchu a thu hwnt, mae rhai pethau syml y gallwn oll eu gwneud i ailgylchu’n well fyth a helpu Cymru i fod y genedl orau yn y byd am ailgylchu.


Ac os byddwch chi’n ansicr o gwbl am sut i ailgylchu eitem benodol, cofiwch am y Lleolydd Ailgylchu ar wefan Ailgylchu dros Gymru, sy’n gallu dangos i chi’n union beth i’w roi yn y bin ailgylchu yn eich ardal chi – y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw nodi eich cod post!


Mae beth a sut rydyn ni’n ailgylchu yn bwysig iawn. Mae ailgylchu pethau yn hytrach na’u taflu yn y bin sbwriel cyffredinol yn golygu y caiff ei drin yn y modd mwyaf cyfeillgar i’r amgylchedd, gan gadw deunyddiau yn ddefnyddiol a’u cadw allan o’r amgylchedd.


Meddai Angela Spiteri, rheolwr ymgyrch Ailgylchu dros Gymru: “Eleni, rydyn ni oll wedi cymryd mwy o sylw o’n heffaith ar yr amgylchedd, ac wedi sylweddoli bod ailgylchu yn rhan o leihau’r effaith honno. Mae’r un peth yn wir yma yn Blaenau Gwent – mae mwy a mwy ohonom yn ailgylchu, felly’r cam nesaf yw gwneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu’n iawn.”


I ddysgu mwy am Wythnos Ailgylchu, i gymryd rhan yn addewid i newid a chystadleuaeth Wythnos Ailgylchu, ac i ddefnyddio’r Lleolydd Ailgylchu i gael gwybod beth i’w ailgylchu yn eich ardal chi ewch i www.WythnosAilgylchu.org.uk


Nodiadau i olygyddion
Cliciwch yma i lawrlwytho lluniau Wythnos Ailgylchu
Ynghylch Wythnos Ailgylchu
Wythnos Ailgylchu yw digwyddiad blynyddol y Deyrnas Unedig i hybu ymwybyddiaeth o ac annog mwy o gyfranogiad mewn ymddygiad ailgylchu. Fe’i trefnir gan WRAP o dan y brand Ailgylchu Nawr ac fe’i cynhelir eleni yn ystod wythnos olaf mis Medi (23ain – 29ain Medi).

Ynghylch Ailgylchu dros Gymru
Ymgyrch yw Ailgylchu dros Gymru i annog pobl yng Nghymru i ailgylchu mwy o bethau yn fwy aml o bob rhan o’u cartrefi. Ymgyrch gan WRAP Cymru yw Ailgylchu dros Gymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru i annog newid ymddygiad ledled Cymru i leihau’r gwastraff a grëir ac i ddefnyddio adnoddau yn effeithlon er mwyn cyrraedd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. www.ailgylchudrosgymru.org.uk

Ynghylch WRAP Cymru
Mae WRAP Cymru yn rhan o WRAP. Gweledigaeth WRAP yw byd ble caiff adnoddau eu defnyddio mewn modd cynaliadwy. Rydym yn gweithio gyda busnesau, unigolion a chymunedau i’w helpu i elwa o’r manteision a ddaw o leihau gwastraff, datblygu cynnyrch cynaliadwy a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Sefydlwyd WRAP fel cwmni dielw yn 2000, ac fe’i cefnogir gan gyllid llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Ceir mwy o wybodaeth am holl raglenni WRAP yma: http://www.wrap.org.uk/