Wythnos Ailgylchu 2017 - Ailgylchu – mae’n werth ei wneud

Yn ystod yr wythnos Ailgylchu sy'n rhedeg rhwng Medi 25 a 1 Hydref 2017. Yr Wythnos Ailgylchu hon, Blaenau Gwent yn gofyn i breswylwyr ailystyried eu harferion yn yr ystafell ymolchi drwy amlygu manteision ailgylchu’r eitemau hyn i Blaenau Gwent a dangos y gylchred ailgylchu.

Er enghraifft, gellir ailgylchu erosolau fel diaroglyddion a chwistrell gwallt drosodd a throsodd heb i ansawdd y deunydd ddirywio, felly gallech eu gweld yn dod yn ôl mewn eitemau fel rhannau i’ch ffonau symudol, peiriant golchi llestri neu hyd yn oed erosol arall! - ‘Y Gylchred Ailgylchu’ Sicrhewch fod yr holl aerosolau yn wag cyn ailgylchu.

Yn ogystal â hynny: mae Ailgylchu dros Gymru wedi cyfrifo pe bai pawb yn [ardal] yn ailgylchu un diaroglydd arall, byddai’n arbed digon o ynni i bweru ysgol gynradd gyffredin am 27 diwrnod. [Gellir cyfrifo’ch gwybodaeth arbed ynni lleol yn rhwydd gyda’r tabl ar ddiwedd y ddogfen hon]

Mwynhau canu yn y gawod neu ymbaratoi gyda’ch hoff fiwsig? Gall bod yn ddoeth gyda’ch ailgylchu, fel ailgylchu tri diaroglydd gwag, arbed digon o ynni i bweru cawod am wyth munud, neu system stereo gartref am 32 awr!

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Garth Collier a'r Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ac Adfywio:

 “Rydym yn ysgogi Blaenau Gwent i edrych yn dda a theimlo’n dda’r Wythnos Ailgylchu hon! O’r chwistrell olaf o bersawr i’r diferion diwethaf yn y botel siampwˆŵ – ychwanegwch ailgylchu i’ch arferion ystafell ymolchi yn ystod Wythnos Ailgylchu. Gall ailgylchu ychydig mwy o eitemau o amgylch y tyˆ wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Cynghorion gorau Ailgylchu dros Gymru ar gyfer ailgylchu yn yr ystafell ymolchi:

  • Pan fo modd, gwagiwch a rinsiwch y cynwysyddion cyn eu rhoi yn y bin ailgylchu
  • Rhowch gapiau a chaeadau yn ôl ar gynwysyddion gwydr cyn ailgylchu
  • Tynnwch gaeadau plastig a chapiau oddi ar erosolau diaroglydd aer, diaroglydd corff ac ewyn eillio os yw’n hawdd gwneud a’i osod yn yr ailgylchu ar wahân
  • Nid yw drychau a photeli farnais ewinedd yn ailgylchadwy a dylid eu rhoi yn eich gwastraff cyffredinol
  • Rhowch fag neu fin ailgylchu yn eich ystafell ymolchi neu’r ystafell wely i wneud ailgylchu yn haws yn yr ystafelloedd hynny

Am ragor o wybodaeth am eich cynllun ailgylchu lleol, yn cynnwys manylion yr hyn y gellir ei ailgylchu a’r hyn nad ellir ei ailgylchu o amgylch y cartref, ewch at www.blaenau-gwent.gov.uk neu defnyddiwch y Lleolydd Ailgylchu: www.AilgylchudrosGymru.org.uk.