Victoria Financial Solutions

Mae busnes gwasanaethau ariannol yng ngogledd Gwent yn anelu i ehangu ymhellach.

Mae Victoria Financial Solutions yn seiliedig yn Cwm a chyflogodd ddau aelod newydd o staff y llynedd ac mae'n awr yn edrych ar dwf pellach wrth i'w sylfaen cleientiaid gynyddu.

Derbyniodd y busnes, a lansiwyd yn 2015, ddwy ddogn o gymorth grant o'r rhaglen Kickstart, a dywedodd y perchennog Matthew Poultney fod y gefnogaeth hon yn hollbwysig. Gweinyddir y cynllun gan UK Steel Enterprise sy'n is-gwmni i Tata Steel a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

"Bu'r gefnogaeth yn hollbwysig," meddai Matthew. "Fe wnaeth ein helpu i osod offer cyfrifiadurol ac agor ein swyddfa yn Cwm. Rydym yn werthfawrogol iawn o'r help a gawsom."

Mae'r cwmni'n cynnig cyngor annibynnol ar forgeisiau, yswiriant bywyd ac yswiriant cartref ac amrywiaeth o wasanaethau ariannol.

"Mae gennym nifer gynyddol o gleientiaid, yn bennaf o fewn cylch o 50 milltir," meddai Matthew. "Rydym yn sicr yn anelu cyflogi mwy o staff i ymdopi gyda'r gwaith yn yr ychydig fisoedd nesaf."

Mae'n teimlo fod y cynnydd diweddaraf mewn cyfraddau llog wedi ysgogi'r farchnad. "Bu ychydig bach o banig ac mae pobl wedi symud ymlaen â rhai o'u cynlluniau fel canlyniad. Yn gyffredinol, serch hynny, mae'r hyder yn uchel a'r darlun cyffredinol yn addawol."

Mae rhyddhau ecwiti yn faes cynyddol wrth i fwy a mwy o bobl ganfod y gallant fanteisio o'r gwerth sydd wedi ei gloi yn eu cartrefi, yn arbennig ar ôl ymddeol, ychwanegodd Matthew.

Bu ei brofiad yn y diwydiant gwasanaethau ariannol yn hollbwysig i lwyddiant y cwmni. "Y peth pwysicaf yw safon y cyngor y gallwn ei roi i'n cwsmeriaid yn yr hyn sydd efallai y penderfyniadau pwysig y byddant yn eu gwneud," ychwanegodd.

Dywedodd Glyn Thomas, Rheolwr Cymru UK Steel Enterprise: "Rwy'n hynod falch fod Victoria Financial Solutions yn ffynnu. Mae'r cwmni'n creu swyddi lleol ac yn datblygu sgiliau ar gyfer pobl leol dyma'r math o fusnes y dymunwn ei gefnogi drwy raglen Kickstart."

Ychwanegodd y Cyng David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

"Mae Victoria Financial Solutions yn cynnig gwasanaeth pwysig gan fod yr economi yn amgylchedd sy'n newid yn barhaus ac yn effeithio ar bawb.

"Mae'n galonogol gweld fod y busnes hwn sy'n seiliedig yn Cwm ar gael os bydd angen cyngor cyfreithiol yn lleol. Mae'n wych gweld fod rhaglen Kickstart Plus wedi rhoi cefnogaeth hanfodol pan fo'i angen i sicrhau llwyddiant a thwf parhaus i'r busnes."